Tudalen:Y Cychwyn.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y trawsai'i ben, ond y llonyddwch diymadferth a ddychrynai Owen, fel petai'i dad, ar wahân i'w anadlu anesmwyth a'i gwynfan isel, yn gelain yno wrth droed y graig. Rhedodd un o'r dynion i ddal ei gadach poced dan bistyll a ffrydiai gerllaw, ond er iddynt agor ei goler a gwlychu'i wyneb, ni ddychwelodd ymwybod i Robert Ellis.

"Rhed i'r Offis i ddeud wrthyn' nhw, Twm bach," meddai George Hobley wrth hogyn gerllaw. "A dywad wrthyn' nhw am roi gwbod i'r Hospital."

"Tyd, Robin, i nôl y s . . . strejar," meddai Huw Jones, gan ruthro ymaith.

Gwnaethant yr hyn a allent â chadachau poced a phethau tebyg, ac yna nid oedd dim ond aros am y stretcher. Yr oedd hwnnw ar ffurf blwch hir, a thyngai llawer un y byddai'n well ganddo drengi na chael ei roi yn yr 'arch' fel y gelwid ef yn aml. Ond gan ei fod yn anymwybodol o hyd, nid oedd gan Robert Ellis un dewis pan gyrhaeddodd y stretcher, a chodwyd ef iddo a rhoi'r holl faich wedyn ar wagen i'w wthio'n araf o'r Twll i'r bonc.

Aethai'r sôn am y ddamwain fel tân drwy'r bonc a daeth gwŷr y waliau yn dwr i'w cyfarfod. Brysiodd yr hen Elias Thomas yn syth at Owen.

"Yr ydw' i wedi gyrru rhywun i fyny i Bonc Rowlar at Datydd," meddai. "Mi fydd o yma mewn munud, Owen . . . O, dacw fo'n dwad, fachgan."

Safodd yr orymdaith ennyd pan ymunodd y Stiward, dyn o'r enw Richard Davies, â hwy.

"Daria, rhowch le iddo fo anadlu, ddynion," meddai ef.

"Peidiwch â gwyro uwchben y stretcher."

"Diolch, Robin," meddai George Hobley wrth ddyn a redasai i'r Barics i nôl potelaid o frandi. ""Ga' i roi diferyn o hwn iddo fo, Mr. Davies?"

"Na, mae'n well peidio. Doeth ydi aros nes i'r Doctor 'i weld o. 'Falla' mai tagu wnâi o, a 'fynta' heb ddŵad ato'i