hun . . . Mi ddigwyddodd damwain debyg ym Mhonc Nelson. dair wythnos yn ôl . . . "
"I Wil Robaits—Wil Leghorn, chwadal ninna'—yntê ?" "Ia, ac mi fu ddiwrnod cyfa' cyn dwad ato'i hun. Ond mae o'n ôl wrth 'i waith hiddiw . . . Pwyll 'rŵan, hogia' . . . yn ara' deg . . . Mi fedrwn fynd â fo ar y wagen i'r Ysgwydd, a 'fydd dim llawar iawn o waith cario o'r fan honno. Ond mae'n well i wyth ohonoch chi ddŵad efo ni—dau bedwar, yntê?"
Bwriadai Owen fynd gyda'r rhai a ofalai am ei dad, ond ataliwyd ef gan Elias Thomas.
"Mi ddo' i adra' efo chdi, Owen, 'machgan i," meddai.
"Rhag ofn i'th fam feddwl bod pethau'n waeth nag y maen' nhw, yntê? 'Dydi o ddim i'w weld wedi torri dim byd, ac felly 'does 'na ddim i boeni yn 'i gylch. Tyd, 'ngwas i, mi awn ni."
Na, nid oedd dim i boeni yn ei gylch, ymgysurodd Owen ar ei ffordd i lawr tua'r pentref: dôi ei dad ato'i hun yr un fath â'r Wil Roberts hwnnw y soniodd Mr. Davies y Stiward amdano. Ond . . . ond dyna resyn i'r peth ddigwydd ar y bore pan aethai ef i'r gwaith i geisio cymell ei dad i'w dynnu o'r ysgol. Byddai gan ei fam ddadl arall yn awr—peryglon yr hen chwarel 'na. Caledodd llygaid Owen wrth syllu i lawr ar Lan Feurig ac ar do helaeth yr ysgol islaw Coed-y-Brain . . . Blwyddyn arall efo Cecil Mami a Bertie Glyn a rhai tebyg, a'i ffrindiau yn eu llodrau melfared a'u hesgidiau hoelion-mawr.
"O, mi ddaw o'n iawn, Owen, 'machgan i," meddai'r hen flaenor yn garedig, gan gamgymryd achos y gofid yn wyneb ei gydymaith. Ac yna, i newid y stori: "Edrych ar yr haul yn taro ar ffenestri'r ysgol ac yn'u troi nhw'n aur. Ond ydyn' nhw'n hardd, dywad?"
"Ydyn'," meddai Owen, ond rhwng ei ddannedd.