Tudalen:Y Cychwyn.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 2

GWENODD yr hen ŵr wrth y tân wrth gofio'r celwydd a ddoi mor rhwydd i'w wefusau flynyddoedd wedyn . . . "Ia wir, 'mhlant i, gwnewch yn fawr o freintiau addysg. Ni fu raid i mi adael yr ysgol cyn bod yn ddeuddag oed a chasglu ychydig ddysg orau y medrwn i" . . . Celwydd, ac eto yr oedd yn wir. Ac yntau'n dyheu am fynd i'r chwarel, nid oedd angen gorfodaeth i'w yrru yno, ond, dyheu neu beidio, i Chwarel y Fron yr aethai pan orfu i'w dad roi'r gorau i'w waith. Heb yr hyn a enillai ef, er lleied ydoedd, pur dlawd fyddai byd y teulu yn Nhyddyn Cerrig.

Gorweddodd Robert Ellis yn amymwybodol drwy'r Llun hwnnw a thrwy'r nos, a phan ddaeth ato'i hun yng nghanol y prynhawn wedyn, yr oedd ei ben fel petai'n cael ei hollti â chŷn. Ni wyddai ym mh'le yr oedd, ond lle bynnag yr ydoedd nid oedd ganddo syniad yn y byd sut y daethai yno. Curai gordd enfawr yng nghanol ei ymennydd, a thu ôl i'w lygaid yr oedd gwifrau llosg yn serio nerfau a chnawd.

"Ym mh'le yr ydw' i?" gofynnodd yn floesg, a'i lais ei hun yn gwneud iddo feddwl am su isel yr hesg islaw Tyddyn Cerrig. Tynnodd rhywun lenni'r ffenestr o'r neilltu, ac aeth y boen. yn ei lygaid yn ganwaith gwaeth wedyn. Chwifiodd law ymbilgar tua'r golau a chaewyd y llenni drachefn.

Caeodd ei lygaid: yr oedd y boen wrth eu cadw'n agored yn annioddefol. Ceisiodd gofio beth a ddigwyddasai iddo a sut y daethai i'r lle hwn, ond rhywfodd ni faliai: y cwbl a ddymunai oedd i'r ing yn ei ben esmwytho a dwyn ymaith gydag ef y cysgodion enfawr, trwm, anniddig, a ymwingai tros ehangder