Tudalen:Y Cychwyn.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei feddwl fel cymylau o inc ar gaeau disglair, tanllyd. Gwasgodd ei amrannau'n dynn, gan grychu'i dalcen a chau ei ddannedd yn ffyrnig, ond daliai'r ordd i guro a'r gwifrau i losgi a'r caeau llachar i ddisgleirio a'r cymylau aflonydd i lusgo'u cysgodion. plwm. O, na allai gysgu am dipyn a deffro'n rhydd o'u gormes! Cysgu . . . efallai mai cysgu yr oedd ac mai hunllef oedd y dychrynfeydd hyn oll. Rhoes rhywun ddiferyn o frandi rhwng ei wefusau, ac anwylodd ei dafod sych ef yn hir cyn gollwng ei surni brathog i lawr ei wddf. Na, yr oedd yn effro, rhaid ei fod yn effro.

"Dyna chi, mi deimlwch yn well 'rwan."

Edrychodd drwy gaddug o boen ar y wraig ganol-oed a weinyddai arno.

"Ym mh'le yr ydw' i?" gofynnodd eilwaith. "Yn Hospital y chwaral. 'Wnewch chi drio tamaid o fwyd ysgafn 'rwan?"

"Dim, diolch . . . Sut . . . sut y dois i yma?"

"Mi gawsoch ddamwain i'ch pen. Bora ddoe."

Damwain? Teimlodd y rhwymau am ei ben a nodiodd yn ffwndrus. Bore ddoe? Cofiodd ddringo'r rhaff, a George Hobley a Now yn ei wylio, ond yr oedd ei gof yn wag wedyn. Ai'r plyg a syrthiodd a'i daro? Neu ai colli'i gydbwysedd pan neidiodd a wnaethai, a tharo'i ben ar garreg neu ar lawr y fargen? Nid oedd ddim callach o ddyfalu.

"Ydi fy ngwraig i'n gwybod, Nyrs?"

"Roedd hi a'r ddau hogyn yma neithiwr am oria'. Triwch gysgu am dipyn 'rŵan. Mae gynnoch chi gur yn eich pen, ond oes?"

"Cur? Dwsin ohonyn' nhw . . . dau ddwsin. A sychad ofnadwy."

"Llyncwch y ddwy dabled 'ma. Mi fyddan' yn help i chi . . . I lawr â nhw . . . Dyna chi. A dyma i chi ddiod o lefrith . . . Yn ara' deg, 'rŵan."