Tudalen:Y Cychwyn.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yfodd yr hanner cwpanaid yn awchus a gofynnodd am ychwaneg: teimlai y gallai ddrachtio Afon Meurig bob diferyn. "Na, 'chewch chi ddim chwanag 'rŵan," meddai'r nyrs. "Triwch gysgu: mi fydd hynny'n fendith fawr i chi."

Fflachiai dreigiau o'r gwifrau llosg tu ôl i'w lygaid a gwasgodd. Robert Ellis ei amrannau ynghyd eto i geisio'u diffodd. Ond cyn hir, o dan ddylanwad y ddwy dabled, pylodd eu disgleirdeb a thawelodd sŵn yr ordd a chollodd y cŷn a holltai'i ben ei rym miniog. Pan alwodd Dafydd ac Owen yn yr hwyr, yr oedd eu tad yn dal i gysgu, ac ni ddeffroes tan oriau mân y bore wedyn.


Ar y bore Sul wedi'r ddamwain y daeth yr ofn gyntaf i feddwl Robert Ellis. Erbyn hynny eisteddai i fyny yn ei wely, a thynasid ymaith y rhwymau oddi am ei ben, gan adael y plaster yn unig. Yr oedd wedi eillio'i wyneb yn ofalus y bore hwnnw a theimlai, wrth fwynhau mygyn gyda chwpanaid o de, yn hapus iawn. Dywedai'r nyrs ei fod "yn dwad ymlaen yn champion", ac nid oedd y cur a fu'n ceisio hollti'i ben yn ddim ond anghysur disylw bellach ac fe ddiflannai'n llwyr cyn hir, meddai'r meddyg.

Rhoes y cwpan ar y bwrdd wrth y gwely, ac yna ymsythodd ar ei eistedd a gwyro ymlaen i syllu drwy'r ffenestr. Gwelai linell syth yr afon ymhell islaw a thu draw iddi y Ddôl Lydan a chaeau ffermdy Llwyn Bedw ac yna'r pentref gwasgarog hyd y llechweddau uwchlaw iddynt. Chwiliodd ei lygaid am Dyddyn Cerrig, a safai o'r neilltu gerllaw'r ffordd a ddringai tua'r Ysgol a Choed-y-Brain. Ond nis gwelai . . . Rhyfedd . . . Wrth gwrs, yr oedd yn bell iawn a tharth y bore'n cuddio'r Llan . . . Ond . . . ond nid oedd mor bell â phan safai ar ben Lôn Serth, a hyd yn oed ar ddiwrnod glawog gallai weld ei gartref oddi yno. Gallai . . . Rhyfedd . . . Ac erbyn meddwl, nid oedd to mawr yr Ysgol nac wyneb Capel Siloam yn . . . yn glir o gwbl. Yn glir? Oni bai ei fod yn gwybod lle'r oeddynt, gwyddai na fedrai eu hadnabod fel Ysgol a Chapel.