"Na finna' 'rwan. Mae o tu ôl i'r llwyni sy wrth ochor y llwybyr."
"Wela' i mo Dyddyn Cerrig heb sôn am rywun ar y llwybyr. 'Ydach chi'n . . . 'ydach chi'n meddwl bod rhwbath wedi digwydd i 'ngolwg i, Nyrs?"
"O, dyna sy'n poeni'ch pen chi, ia?" A chwarddodd hi i'w gysuro. "Be' ydach chi'n ddisgwyl ar ôl yr ergyd gawsoch chi? Mi deimlwch bob math o betha' rhyfadd am ddiwrnod ne' ddau. Yr ydach chi—a phob dyn, am wn i—fel John 'mrawd. Tipyn o boen ym mawd 'i droed o—a dyna fo am gael i gaethiwo hefo'r cryd cymala' am weddill 'i ddyddia'." Ac aeth ymaith gan chwerthin—ond gan benderfynu sôn am y peth wrth y meddyg er hynny.
Suddodd Robert Ellis yn ôl i'r clustogau, gan geisio anghofio'i bryder. Ia, yr ysgytwad a gafodd a amharodd ar ei olwg. A'r hen gur ofnadwy hwnnw a'i poenodd am ddyddiau. Ia: dôi ato'i hun mewn diwrnod neu ddau. Ond er iddo gredu geiriau'r nyrs, daliai i wyro ymlaen a rhythu tua Llan Feurig bob hyn a hyn drwy'r bore, gan obeithio bob tro y byddai'r tarth a orweddai tros y pentref wedi llithro ymaith.
Galwodd Dafydd ac Owen a Myrddin, ei fachgen saith mlwydd oed, yn y prynhawn—y ddau olaf yn falch o gael osgoi'r Ysgol Sul, ac anghofiodd eu tad ei ofnau'n llwyr yn eu cwmni. Wedi iddynt roi'r newyddion pwysicaf iddo, edrychodd Myrddin yn slei arno a'i law ar y boced tu fewn i'w gôt.
"Mae gin' i bib bren, Tada," meddai.
"Taw, fachgen!"
"Ond 'newch chi ddim deud wrth 'Mam, na 'newch?"
"Pam, 'ngwas i?"
""Ron i'n 'i chanu hi bora 'ma ar ôl capal, ac mi ddaru hi 'i dwyn hi odd' arna' i. Ond mi ddois i â hi hefo mi i chi gael 'i gweld hi. 'Newch chi ddim deud, na 'newch ?"