Tudalen:Y Cychwyn.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

berffaith hapus yn yr hen fwthyn, meddai, ac ni hoffai Elin druan iddo'i adael. Ei wraig oedd Elin, a soniai amdani fel petai hi'n fyw o hyd felly, y mae'n debyg, y ceisiai ddianc o'i unigrwydd syfrdan, oherwydd er ei bod hi mor dawel ac addfwyn, Elin Gruffydd oedd y dylanwad grymusaf ym mywyd ei rhyferthwy o wr. Ac wedi ei marw hi collodd yntau lawer o'i ynni chwyrn, gan fyw'n hiraethus yn y gorffennol ac adrodd wrth Garlo atgofion melys am Elin ac yntau'n blant gyda'i gilydd yn Ysgol Huws Coes Bren, am yr hwyl a gaent yn ifainc yn ffeiriau Bryn Llwyd, am golli'r fodrwy fore'r briodas, am eu hunig blentyn Emily yn "bwtan fach dew", am... Ond llithrasai niwl henoed tros y blynyddoedd wedyn, a'r darluniau pellaf oedd y rhai cliriaf, er mai i'r cyfnod a anghofiai y perthyn—ai bri'r medalau a'r cwpan arian a'r ddwy gadair ac enwogrwydd Owen Gruffydd fel pregethwr ac fel areithiwr chwyrn mewn. etholiadau.

Y pethau hynny, a aethai bellach mor ddibwys yn ei feddwl ffwndrus ef, a gofiai'r ardal, ac yn arbennig ei daranau o bregethau. Oherwydd yr oedd, yn ei anterth, yn bregethwr nerthol iawn a'r sôn am ei huodledd ysgubol ac am utgorn arian ei lais yn ymledu drwy holl siroedd y Gogledd. Cynghorai llawer un ef i fynd i'r Weinidogaeth, ond ni wnâi ef ond taflu'i ben hardd i fyny a gwenu. "Fi! Mi faswn wedi ffraeo efo'r blaenoriaid i gyd cyn pen mis a deud wrthyn' nhw am fynd i ganu! Na, mae'n well imi aros fel yr ydw' i." Fe'i adwaenai Owen Gruffydd ei hun yn o dda.

Cerdded a wnâi i'w gyhoeddiadau bron i gyd, ac nid oedd pymtheng neu ugain milltir yn ddim iddo. Pan weithiai yn y chwarel brysiai adref ganol dydd Sadwrn, bwytâi ddau blatiaid o lobscows, newidiai i'w ddillad patriarchaidd, cydiai yn y ffon gollen a enillasai wobr iddo mewn eisteddfod leol, ac i ffwrdd ag ef. Troediai i ganol Môn neu i bellterau Llŷn ym mhob tywydd, gan ddweud ei bregethau wrth y llwyni a'r creigiau ar fin y ffordd, a'i lais cyfoethog, ar ros neu forfa unig, yn codi i