Tudalen:Y Cychwyn.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

orfoledd yr hwyl. Ac yn yr 'hwyl' yr oedd Owen Gruffydd yn aruthr ac ysblennydd. Dechreuai'i bregeth bob amser yn dawel, gan egluro a dadansoddi, fel gwaedgi ar ôl pob trywydd. o ystyr yn ei destun: yna llithrai'r tipyn lleiaf o gryndod i'w lais fel y dechreuai'r proffwyd a'r bardd wthio'r esboniwr o'r neilltu. Cyn hir codai'r llais, âi afon redegog y geiriau yn rhaeadr, yn rhuthr a dorrai bob argae, yn rhu môr ar greigiau. Anghofiai Owen Gruffydd ei gynulleidfa, flachiai'i lygaid, crwydrai'n ôl a blaen yn y pulpud a'i ddwylo mawr uwch ei ben yn erfyn am daranfolltau o'r nef ar drythyllwch byd, am ddwyn ymaith wartheg Basan â drain a'u hiliogaeth â bachau pysgota, am dymestl genllysg neu gorwynt fel llifeiriant dyfroedd mawrion ar falchder a meddwon Effraim, am ffrewyll lifeiriol ar gelwyddau Jerwsalem, am ostwng dinas Ariel nes o'r llwch y bydd isel ei lleferydd hi, am . . . Ond geiriau, dim ond geiriau, meddai'r rhai a oedd yn eiddigus eu calon, gan orfod edmygu er hynny ogoniant y llais a'r llefaru ac angerdd ysgubol y proffwyd. o chwarelwr. Ac er eu gwaethaf troai'r crintachrwydd yn wir edmygedd pan glywid, yn yr emyn olaf, y môr o lais yn arwain y gân. Yna, wedi'r gwasanaeth a thamaid o fwyd, cychwynnai'r chwarelwr gerwin tuag adref. O'i flaen yr oedd y ffordd. hir, deng neu bymtheng neu ugain milltir ohoni efallai, ychydig oriau o gwsg yn y bore bach, ac yna gyda'r wawr y dringo llafurus i fyny Lôn Serth i'r chwarel. Rhaid bod Owen Gruffydd yn ddyn cryf yn y dyddiau hynny.

Ymladdwr a gwrthryfelwr oedd ef, a'i holl natur wrth ei bodd pan welai elyn i frwydro ag ef ac i daranu yn ei wyneb. Gelynion felly oedd Pechod (â llythyren fras, rhyw greadur tywyll, llechwraidd, creulon, yn prowlan fel rheol o gwmpas tafarndai), y Ddiod, y Babaeth, Eglwys Loegr a'r hen Gatecism y ceisiai hi ei wthio i lawr gyddfau plant Ymneilltuol mewn ysgolion, y Dreth Eglwys, y Dwymyn Seisnig, y Degwm,