Tudalen:Y Cychwyn.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwrthwynebwyr Dadsefydliad. A bu'n arwr ac arweinydd drocon yn Llan Feurig a'r cylch. Yn fuan wedi iddo briodi, gwrthododd yn lân dalu'r Dreth Eglwys, ac yn rheolaidd am rai blynyddoedd cyn i'r dreth honno gael ei diddymu, galwai'r beiliaid yn Nhŷ Pella' i gludo ymaith beth o'r dodrefn. Uchel a chwyrn oedd ei lais hefyd ym mhob etholiad, er i Mr., wedyn. Syr, Oswald Meyricke, perchennog y chwarel, ddod i'r maes fel ymgeisydd Toriaidd. Collai amryw eu gwaith yn y chwarel ar ôl etholiad, ond—oherwydd ei huodledd a'i ddylanwad, y mae'n debyg—ni throwyd Owen Gruffydd ymaith. Cael ei roi, er ei fod yn grefftwr medrus, ar graig wael oedd ei benyd ef, a rhybela—"clirio baw", chwedl yntau—gan chwysu i ennill pymtheg i ddeunaw swllt yr wythnos. Cyn etholiad 1874, blwyddyn cyn geni Owen, rhoddwyd iddo fargen neilltuol o dda ac enillai'n rhwydd ddwybunt a chweugain yr wythnos. Gwenai'r Rheolwr yn gyfeillgar arno bob tro y dôi ef ar ei rawd heibio i'r bonc, a phroffwydai ambell 'wàg' y byddai Owen Gruffydd yn Stiward cyn hir. Pan nesaodd yr etholiad ac ymdaflu ohono ef iddo, rhewodd gwên Jones-Parry a galwodd ym Mhonc Boni i awgrymu'n gynnil fod craig a-chraig. Ar ôl yr etholiad fe'i cafodd Owen Gruffydd ei hun yn tynnu a chario gwenithfaen mewn rhan arall o'r un Twll. Slafiodd felly am fisoedd, ond gan wybod bod cerrig rhywiog tu draw i'r rhwbel a gliriai ef a'i bartner ymaith. Ond wedi iddynt agor ffordd at y llechfaen, daeth John Humphreys, y Stiward Gosod, atynt un bore, a nodiodd yn gwrtais tua rhwb a syrthiasai heb fod nepell i ffwrdd. "Mae arna' i isio i chi symud hwn'na 'rŵan," meddai, a'i wên mor loyw—ac mor gynnes—â'r heulwen aeafol a drawai ar ddarnau o rew yn y graig gerllaw. Trwy ryw ryfedd ras, fe'i meddiannodd Owen Gruffydd ei hun. "Rhwb go fawr, yntê, Mr. Humphreys?" meddai. "Bron cymaint â'r un ddaeth i lawr ar gefn Mr. Meyricke yn y Lecsiwn, am wn i." Yna syllodd i fyny ar y graig. "Hm, 'synnwn i ddim na ddaw un mwy i lawr y tro nesa', wchi. Mae'r hen graig yn dadfeilio'n o gyflym y dyddia' yma, ond ydi? Ydi, wir." Yna cydiodd yn ei gôt a'i gwisgo, casglodd ei arfau at ei gilydd, a cherddodd ymaith yn dalog heb air pellach. Ychydig flynyddoedd tros ei hanner cant oedd ef y pryd hwnnw, a byth er hynny. pregethwr achlysurol, adroddwr, areithiwr, beirniad eisteddfodol, a thipyn o lenor fu Owen Meurig. Main oedd ei fyd yn aml, ond ac yntau'n annibynnol bellach, yn rhydd i godi'i ddwrn yn wyneb pob camwri, ac i grwydro pan fynnai i'r Cyfarfod Dosbarth a'r Cyfarfod Misol, ni phoenai lawer am hynny. O waelod ei chalon diolchai Elin ei wraig, a welsai drueni rhai a drowyd o'u cartrefi yn ogystal ag o'r chwarel ar ôl etholiad, nad oedd Tŷ Pella' ar ystad Oswald Meyricke.