Tudalen:Y Cychwyn.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar un eisteddiad, gan fygwth ymlusgo o'i gadair ac o fywyd yr un pryd oni châi hwynt. Y diwedd fu i ddyn meddw gael ei wthio gan ddyn meddw arall i fyny'r Allt Wen y noson honno, y cyntaf yn chwipio'r ceffyl dychmygol a farchogai, a'r ail, a dybiai ei fod mewn angladd, yn gofyn iddo, mewn sibrwd dwys a thaer, ymdawelu ac ymddwyn yn weddaidd os gwelai fod yn dda. Wedi iddynt gyrraedd adref, brysiodd y gwthiwr i mewn. i'r tŷ am funud, ond, yn esgeulus, gadawodd y gadair tu allan a'i hwyneb tua'r goriwaered a heb garreg o flaen yr un o'r olwynion. Ond, chwarae teg iddo, yr oedd ei pherchennog wedi'i ddarbwyllo mai mewn cynhebrwng yr oedd ac wrthi'n canu am "daith yr anialwch" a "troeon yr yrfa" mewn edifeirwch bloesg. Yna, yn sydyn, fel y dychwelai'i fab i'w nôl, penderfynodd yr hen Effraim mai marchog ydoedd wedi'r cwbl, ysgydwodd yr awenau'n ffyrnig ag un llaw, cleciodd ei chwip ddychmygol â'r llall, dechreuodd godi a disgyn fel joci, gan weiddi "Ji-hyp! Ji-hyp!" ac i ffwrdd ag ef. Erbyn i Ddafydd Ellis gyrraedd y ffordd, yr oedd y gadair yn rhuthro fel car gwyllt i lawr yr allt a'r joci a eisteddai ynddi yn dal i yrru'n fuddugoliaethus tua phen y daith. Bu'r hen Effraim farw'n orfoleddus.

Mab y Dafydd Ellis hwnnw oedd y Robert Ellis yr oedd Emily mor hoff ohono. Ymresymodd Owen Gruffydd yn daer â'i ferch, ond ni thyciai na dadlau nac ymbil na gwylltio ddim. Y nefoedd fawr, oni wyddai hi fod Dafydd Ellis a'i fab yn medru difyrru diotwyr y Crown drwy adrodd, yng nghanol rhuadau o chwerthin, hanes yr hen Effraim yn marchogaeth i'w dranc? Do, fe glywsai Emily hynny, ond yr oedd hi'n sicr y gallai hi wneud dyn o Bob. Pa arweiniad a gawsai ef erioed? gofynnodd. Unwaith y câi ei gartref ei hun a thipyn o ofal a chysur, fe newidiai'n llwyr a dôi'r gorau ynddo—ei garedigrwydd a'i haelioni, er enghraifft yn fwy i'r golwg. Haelioni! rhuodd ei thad. Haelioni i ddeiliaid y Crown! Ac yn awr, os oedd y stori'n wir, etifeddasai ddeucant o bunnau ar ôl rhyw ewythr a gadwai dafarn ym Môn. Arian y Fall, wedi'i fathu o drueni a thlodi