Tudalen:Y Cychwyn.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neu ddeuswllt adra' ar ddiwadd mis, yr on i'n cerddad i'r tŷ yn reit dalog."

Dringodd Owen yr allt fel un mewn breuddwyd. Yr oedd wedi gwrido at ei glustiau pan agorodd Myrddin ei hen geg fawr i ddweud ei fod ef yn dyheu am fynd i'r chwarel. Wrth Taid, wrth Taid o bawb! Ef oedd yr olaf un i grybwyll y peth wrtho : hyd yn oed ped ildiai'i fam, gwyddai Owen y gwnâi Taid ei orau glas i'w gadw yn yr Ysgol. Ond yn lle dweud y drefn a'i alw'n ffŵl, y cwbl a wnaeth oedd edrych yn ffwndrus a sôn amdano'i hun yn ddeg oed. Curodd calon Owen yn hyderus o'i fewn.

"Yr ydw' i bron yn ddeuddag, Taid," meddai, "ac mae pawb yn deud 'mod i'n hogyn mawr o f'oed."

"Wyt, fachgan ... wyt. Wyt, yn hogyn cry', diolch am hynny. Yr ydach chi i gyd yn blant cry' ac iach, i Dduw y bo'r clod. Ydach, bob un ohonoch chi. A 'thawn i yn y chwaral, mi faswn i wrth fy modd pe cawn i jermon fel chdi. Hogyn sâl iawn ges i ddwytha' yno, cena' bach slei a diog, a finna' wedi gwneud cymwynas â'i dad o, Edward Edwards druan, drwy'i gymryd o ata' i i'r wal. Ond pan yrrwn i o i'r efail efo gêr, mi fydda' yno am oria', yn clebran a stwnsian efo Twm Go'."

Ai Taid a lefarai? Fel rheol, pan soniai Owen am y chwarel wrtho, troai'r stori ar unwaith a siarad am adrodd neu farddoniaeth neu bregethu. Ond heddiw... Yr oedd y peth yn ddirgelwch mawr.

"Ond mae'r hen chwaral 'na wedi magu dynion gwych," chwanegodd Owen Grufiydd ymhen ennyd, fel pe mewn ymson. "Dyna Ifan Hughes Caer Heli. Yn y chwaral yr oedd o am flynyddoedd cyn mynd i'r Weinidogaeth. Ac O. R. Morris Llan Eifion. Ac Arfonydd a llawar o rai eraill. A 'thaswn i heb fod yn greadur mor wyllt pan on i'n ifanc..." Chwarddodd yn dawel yn lle gorffen y frawddeg.