Tudalen:Y Cychwyn.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ydw', debyg iawn. Ac ymhen rhyw flwyddyn mi gaet dd wad ato' ni i'r wal fel jermon fesul dydd."

"Mi . . . mi faswn i wrth fy modd efo chi, Lias Tomos. Ond . . . ond . . . 'fydd Taid ddim yn fodlon."

Mi fûm i'n siarad efo fo pnawn ddoe cyn iddo fo gychwyn i'w gyhoeddiad ym Mryn Llwyd."

"Ac yr oedd o'n . . . ?"

"Oedd, yn reit fodlon. Fo ddaru awgrymu'r peth wrtha' i."

"Taid!"

"Ia."

"A be' mae 'Mam yn feddwl, tybad?"

"'Roedd o wedi trin y matar efo hi . . . Gan dy fod di'n ymddangos mor anniddig, yntê?"

"Pryd . . . pryd y ca' i ddechra', Lias Tomos?"

"Mi wela' i Mr. Davies y Stiward 'fory ac mi geiff o drefnu yn yr Offis. Wedyn mi fydd rhaid iti gael trowsus melfared, on' fydd? A 'sgidia' hoelion-mawr a thun bwyd. A gêr. Na, 'faswn i ddim yn prynu tun bwyd na gêr am dipyn. Cymar di fenthyg rhai dy dad nes bydd o wedi gwella'n iawn. Mae Doctor Williams yn meddwl y rhaid iddo fo fod adra' am sbel go lew. Ia, dyna wnei di, cymryd benthyg arfa' dy dad am fis ne' ddau . . . Pryd mae'r ysgol yn dechra'?"

"'Fory."

"O. Efalla' fod yn well iti fynd yno am yr wsnos yma rhag ofn i ryw anhawster godi."

"An . . . anhawster?"

"Na, 'fydd 'na'r un, o ran hynny. Ond mae'n well iti fod yn yr ysgol nag yn loetran adra', ond ydi?"

Nid atebodd Owen. Yr oeddynt wrth y tro a arweiniai i Dyddyn Cerrig ac yr oedd yn falch o adael yr hen flaenor a dringo'r allt dan chwibanu. Prin y medrai goelio'r peth. Hanner awr ynghynt, yn yr Ysgol Sul, meddyliai'n sur am drannoeth a Cecil Mami a Berti Glyn ac eraill, a gwyddai'n reddfol, er na chlywai mohonynt, fod Huw Rôb a Wil Cochyn