Tudalen:Y Cychwyn.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 3

WYRODD yr hen weinidog ymlaen, cydiodd yn y procer, a daliodd ef yn ei law yn freuddwydiol. Yna, wedi iddo bwnio'r tân, eisteddodd yn ôl i wylio dawns fflam a chysgod ar y silffoedd llyfrau gyferbyn ac ar y darluniau o'i blant ar y mur uwchlaw iddynt . . . Olwen . . . Dôi hi adre nos Wener i fwrw'r Sul, yn athrawes bob mymryn ohoni ac yn edrych dros ei sbectol yn aml ar Feurig-ac arno yntau hefyd weithiau . . . Glyn.. Oedd, yr oedd Glyn yn fachgen da ac yn well pregethwr o lawer na'i dad . . . Arthur, a aeth i'r Llynges Fasnach ac i'w dranc a'i farddoniaeth orau heb ei hysgrifennu a'i blentyn, Meurig, ond pedair oed heb brin adnabod ei dad . . . Arthur druan . . .

Hm, yr oedd yn hen bryd iddo droi'r golau ymlaen a chau llenni'r ffenestr. Ond ni syflodd o'i gadair yr oedd y gwyll. mor llariaidd, mor dirion, mor ddigynnwrf, i henwr yn synfyfyrio wrth y tân.

Cofiodd mai ychydig a wyddai ef ar y pryd am ing meddwl a chorff ei dad, a phan gafodd yr hanes, ymhen amser, gan ei fam a Dafydd a'r nyrs ac eraill, synnai iddo fod mor ddifater ac ansylwgar. Ond, a chyffro a newydd-deb bywyd y chwarel yn llond ei feddwl, ni phoenai ryw lawer am y peth, gan gredu haeriad Dafydd y cryfhâi golwg ei dad wedi i effeithiau'r ddamwain gilio. Bob gyda'r nos wedi iddo gyrraedd adref o'r chwarel, gwelai'r bachgen fod ei dad yn mynd yn fwy ffwndrus ac ansicr hwyr ar ôl hwyr, yr oedd ei chwerthin hefyd wedi'i ddiffodd bron yn llwyr, a phan siaradai, dim ond darn o'i feddwl a oedd yn yr hyn a ddywedai. Rhywfodd, nid yr un dyn a ddaeth o'r ysbyty ag a gludwyd i mewn yno: yr oedd hwn yn ŵr