Tudalen:Y Cychwyn.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

syn a thawel a dwys, yn gwenu'n beiriannol, a hyd yn oed yn torri allan i grio wrth wrando ar hanesion am y bonc. Ond fe ddechreuai wella cyn hir wedi ychydig mwy o orffwys. Yna, y nos Sadwrn ar ddiwedd ei wythnos gyntaf o waith, gwyddai Owen hyd sicrwydd fod ei dad ar fynd yn ddall. Fel y syllai i mewn drwy ffenestr Tyddyn Cerrig y noson honno, deallodd pam y cawsai ef adael yr ysgol.

Aethai ef a Huw Rób a Wil Cochyn i Gaer Heli y prynhawn hwnnw, ac yno, mewn Syrcas ac yn gwylio'r gwerthwyr ar faes y dref ac yn crwydro'r heolydd yn ddynion i gyd, y buont tan amser y brêc a gyrhaeddai Lan Feurig hanner awr wedi un ar ddeg. Yn ofnus y nesaodd Owen at Dyddyn Cerrig, gan wybod y cãi dafod gan ei fam am fod allan mor hwyr. Gobeithiai y byddai hi wedi mynd i'w gwely a gadael Enid neu Ddafydd i lawr i aros amdano. Oedodd ennyd wrth ffenestr y gegin a gwrando. Nid oedd yno sŵn. Camodd o'r llwybr at y mur ac edrychodd i mewn heibio i ymyl y bleind.

Dim ond ei dad a oedd yn y gegin, yn sefyll a'i ddwylo'n cydio ym min y bwrdd. Gwyrai ymlaen at y lamp, rhythai ar ei golau, yna tynnai'n ôl a chau ei lygaid ennyd cyn pwyso ymlaen drachefn. Yn sydyn, fel petai'n clywed sŵn, ymsythodd ac eisteddodd yn frysiog yn ei gadair. Gwelai Owen ei fam yn dod i mewn, a channwyll olau yn ei llaw. Cododd ei dad a chymryd ei llaw arall, a syllodd Owen yn hurt arni'n ei arwain yn araf o'r ystafell.

Camodd y bachgen yn ôl i'r llwybr a safodd yno a'i feddwl yn dryblith niwlog a morthwyl ei galon yn curo'n wyllt o'i fewn. Gerllaw, ar y lôn, canai amryw o feddwon ar eu ffordd adref o'r Crown, a chaeodd ei ddannedd yn chwyrn wrth wrando arnynt. Troes i mewn i'r tŷ yn araf, gan agor a chau'r drws yn dawel, ac eisteddodd wrth y bwrdd i fwyta'r bara a chaws a adawsai'i fam. Yr oedd wrthi'n tywallt glasaid o laeth enwyn iddo'i hun pan ddaeth hi i mewn. Sylwodd fod ei llygaid yn goch gan ôl crio.

"Lle buost ti mor hwyr, hogyn?" oedd ei chyfarchiad.