Tudalen:Y Cychwyn.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ysgydwodd ei phen mewn anobaith, yna, "Ron i wedi meddwl i ti gael rhwbath gwell na'r chwaral," meddai.

"Rargian, peidiwch â phoeni dim am hynny. Yr ydw' i wrth fy modd yn y chwaral, ac mae Lias Tomos a Huw Jones yn ffeind ofnadwy wrtha' i. 'Ydi . . . 'ydi 'Nhad yn gwbod?"

"Mae o'n ama', mae arna' i ofn. Ac mae'r peth fel hunlla' ar 'i feddwl o. Diar, pwy fasa'n meddwl y medrai un fel fo, mor llawn o fywyd bob amsar, hogyn ym mhopath bron, fynd mor dawal, mor drist, mor hen, mewn 'chydig wythnosa'? Mae Taid a finna' a Dafydd yn deud wrtho fo y daw o'n well yn fuan, ond . . . ond mae swnio'n glonnog yn mynd yn anos bob tro."

Cododd mewn braw: clywai sŵn rhywun tu allan i'r gegin ac ofnai mai ei gŵr a ocdd yno ac iddo glywed ei geiriau. Agorodd y drws a daeth Dafydd i mewn, wedi hanner-wisgo amdano.

"Hylô, be' ydi peth fel hyn?" meddai. "Mae'n hen bryd i chi, Mrs. Ellis, fod yn y gwely 'na."

"Yr ydw' i'n mynd 'rŵan, Dafydd, ar ôl imi glirio'r 'chydig lestri 'ma."

"Mi ofala Now a finna' am y llestri, ac am y drysa', ac am ddiffodd y lamp. 'Rwan, i'r lle 'sgwâr 'na â chi." Ac, yn dyner ond yn benderfynol, gwthiodd ei fam tua'r drws.

"Mae 'Mam wedi deud wrtha' i, Dafydd," meddai Owen wedi iddi fynd.

"Ydi hi, Now bach? Wel, 'roedd yn well iti gael gwbod, ond oedd? A thitha'n ddyn 'rŵan, yntê, yn gweithio yn y chwaral?"

"Be' fedrwn ni 'i wneud, Dafydd?"

"Dim llawar, fachgan. Gwneud ein gora' i ennill cyflog, yntê? A thrio helpu tipyn ar 'Mam gyda'r nos—torri pricia' a gofalu am yr ardd a phetha' felly."

Nodiodd Owen, ond gan gofio'n euog iddo ef ruthro allan ar ôl ei swper—chwarel bob hwyr yr wythnos honno i sgwario hyd y pentref efo Huw a Wil, ac iddo edrych ar Ddafydd fel tipyn o