Tudalen:Y Cychwyn.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hen Fetsi, yn piltran o gwmpas y tŷ. Ond, erbyn meddwl, ychydig a wnâi Dafydd yn yr ardd a'r tŷ tan yn ddiweddar iawn. Y nos Fercher wedyn, galwodd Robert Ellis Ddafydd ato: erbyn hynny yr oedd y tad yn gwbl ddall.

"Dafydd?"

"Ia, "Nhad?"

"Mae arna' i isio iti alw yn Offis y chwaral i weld Jones-Parry, y Manijar."

"O'r . . . o'r gora'."

"Gofyn iddo fo gei di fy hen fargen i. Mae 'na gerrig da ynddi a lle iawn i wneud cyflog."

"Ond mi fyddwch chi'n ôl wrth eich gwaith . . . "

"Pryd?"

"Wel, ar ôl i effeithia'r ddamwain . . . "

"Effeithia'r ddamwain,'" 'effeithia'r ddamwain'—yr ydach chi fel parrots yma, dy fam a'th daid a chditha'. Pam goblyn na ddeudwch chi'r gwir wrtha' i, yn lle fy nhrin i fel plentyn dwyflwydd? Be' ddeudodd y Syr hwnnw o Lundain wrth Doctor Williams?"

"Deud bod yn bwysig i chi orffwys a chryfhau . . ."

"Cryfhau! Cryfhau!" Cododd o'i gadair, gan daro'i law chwith ar y silff ben tân. Estynnodd y llall tuag at Ddafydd.

"'Fasat ti'n licio ysgwyd llaw efo mi?"

"Dim diolch, 'Nhad."

"Na fasat, mi wn. Na'r Syr hwnnw o Lundain chwaith.

Mi fedrwn wasgu'i fysedd o nes byddai'r gwaed yn sboncio allan ohonyn' nhw. Cryfhau, wir!"

"Ia, ond nid cryfhau felly oedd o'n feddwl, ond . . ."

"Ond be'?"

"Rhoi . . . rhoi siawns i nerfa'r llygaid ddŵad atyn' 'u hunain ar ôl sioc y ddamwain."

"Mi liciwn i fedru gweld dy wynab di, Dafydd, dim ond