Tudalen:Y Cychwyn.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Lle gwael sy gen' ti 'rŵan?"

"Y graig yn gefnau i gyd a dim deunydd llechi ynddi. Gorfod malu'r plygion yn faw i'r wagan ar ôl wastio powdwr. Tair ceiniog y dunnall am y baw. 'Fedra' i yn fy myw wneud cyflog. A go dena' ydi hi arno' ni fel teulu ar ôl i 'Nhad fod yn sål cyhyd."

"Hm. "Wnaiff hynny mo'r tro o gwbwl, ddim o gwbwl.

O'r gora', Ellis, mi ga' i air efo'r Stiward Gosod. Mi gawn ni weld be' fedrwn ni 'i wneud."

"Diolch, Mr. Jones-Parry, diolch yn fawr."

Aeth Dafydd allan o'r Swyddfa yn llawen. Efallai wedi'r cwbl iddo gamfarnu'r dyn: efallai ei fod wedi maddau ac anghofio erbyn hyn. Sylweddolodd fel y cerddai ymaith nad oedd ei gap am ei ben a brysiodd yn ôl i'r Swyddfa i'w ymofyn. "Anghofio 'nghap," meddai wrth Rowlands Bach, y clarc. Fel y plygai i'w gymryd oddi ar gadair, clywai lais y Rheolwr yn y swyddfa fewnol: "Hm, a maen' nhw'n dechra' meddwl mai dymuniada' dynion wrth farw sy'n rheoli'r chwaral 'ma, 'ydyn' nhw?"

Nid oedd Dafydd mor llawen pan frysiodd allan yr eiltro. Ei unig gysur oedd bod Jones-Parry ar fin ymddeol o'i swydd fel Rheolwr y chwarel.

Parhaodd y tlodi yn Nhyddyn Cerrig, ond teimlai Owen yn llawer hapusach wedi marw ei dad. Ni feiddiai gyfaddef hynny wrth neb, dim hyd yn oed wrtho ef ei hun, ond gwnâi'r band du am ei fraich a chlywed brawddegau fel "Wedi colli'ch tad, yntê, 'machgan i?" iddo deimlo'n llawer hŷn—a thipyn bach yn bwysig. Yn enwedig pan fyddai yng nghwmni Huw Rôb neu rywun arall o'r un oed ag ef: nodiai'n ddwys, yn ddyn o'i gymharu â hwy. Ac yr oedd Tyddyn Cerrig yn awr yn lle y gallai chwerthin a chanu a chlebran ynddo. Wedi misoedd o orfod mygu'i asbri, melys oedd cymryd arno ymladd â Dafydd, neu dynnu gwallt Enid, neu Elin pan ddigwyddai hi ddod adref am dro o Lŷn, neu chwarae â Myrddin. Bellach, wrth fwrdd y