Tudalen:Y Cychwyn.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Swper-chwarel, câi Owen siarad yn hy ac uchel, gan ddynwared Huw Jones neu Robin Ifans, a digwyddiadau bychain y dydd yn fawr yn ei feddwl a brawddegau fel "y tebot gwirion iddo fo" neu "yr hen snisyn bach" yn ei wneud yn gawr o chwarelwr. O'r blaen, pan ddywedai hanes y chwarel, âi hiraeth ei dad yn drech nag ef a thorrai i wylo a chwynfan—yn blentynnaidd, meddai llais bach anhydrin yng ngwaelod meddwl Owen. Ond yn awr nodiai a gwenai'i fam, chwarddai Enid os digwyddai hi fod yn y tŷ, ac yr oedd Myrddin wrth ei fodd yn gwrando ar straeon ei frawd. A chwarae teg i Taid, yr oedd yntau i'w weld yn mwynhau'r sgwrs.

Agwedd Dafydd a wnâi Owen yn anesmwyth. Ar y ffordd o'r chwarel yr oedd yn glustiau i gyd a tha flai "Taw, fachgan!" neu "Go dda, 'r hen ddyn!" i lif huodledd Owen. Ond yn y tŷ, dim ond nodio a gwenu a wnâi, a'i lygaid mawr fel pe'n ceisio denu mwynhad i rai trist-freuddwydiol ei fam ac yn goleuo a thywyllu fel y llithrai cysgodion tros ei hwyneb hi. Pam na chwarddai Dafydd wrth y bwrdd fel y gwnâi ar y ffordd, yn lle ei wneud yn annifyr, bron yn euog, pan ddechreuai ddynwared rhai o ddynion y bonc? Wedi'r cwbl, onid Dafydd ei hun a ddywedodd, "Efalla' mai hyn sy ora', wsti," y bore hwnnw pan fu farw'u tad? A thebyg oedd geiriau Taid ac Elias Thomas a Mr. Morris y Gweinidog ac amryw eraill. 'Roedd modd deall 'Mam yn 'i hiraeth, ond 'doedd dim eisiau i Ddafydd ymddwyn fel petai'u tad dall a chlaf yn y tŷ o hyd. Ni ddeallai Owen ei frawd Dafydd o gwbl, a theimlai'n ddig tuag ato.

Ond gwyddai yn ei galon mai Dafydd oedd ei gyfaill gorau, a pha bryd bynnag, ymhen blynyddoedd, yr edrychai'r Parch. Owen Ellis yn ôl ar ei ieuenctid, am gadernid tawel, di—hunan, ei frawd y meddyliai fwyaf. Diolchai'n ddwys am dynerwch a phenderfyniad ei fam, am ysbrydiaeth hyrddiog ei daid, am ddylanwad mwyn yr hen sant Elias Thomas, ond sylweddolai