Tudalen:Y Cychwyn.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lân â hollti un o'r clytiau anhydrin. Ni ddywedodd yr hen flaenor ddim ac edrychodd yn geryddgar ar Huw Jones am gecian chwerthin. Yna un prynhawn, "Hylô, pwy roth y clwt yna iti, Now?" gofynnodd George Hobley. "Yr Hen Phar, mae'n debyg?" "Naci," atebodd Owen yn ei anwybodaeth, "Ifan Ifans." Troes Huw Jones ei gefn arno'n sydyn a dywedai ymyl crynedig ei het fod plwc o chwerthin yn ysgwyd ei pherchennog. Deallodd Owen cyn diwedd y dydd mai cwtogiad o 'Pharisead' oedd 'Phar'. Yn chwerw braidd y gwrandawodd ar huodledd Ifan Ifans yn y Cyfarfod Gweddi y noson honno ac ar ei 'brofiadau' dwys yn y Seiat yr hwyr canlynol.

Gyda'r nos hefyd, cadwai Dafydd olwg dadol ar ei frawd. Nid oedd raid iddo'i dywys i'r capel, i'r Cyfarfod Gweddi nos Lun, i'r Seiat nos Fawrth, i'r Band of Hope nos Fercher, i'r Cwrdd Darllen nos Iau, i'r Gymdeithas Lenyddol nos Wener—gofalai'r plisman defosiynol Owen Gruffydd am hynny—ond, gan gredu barn Mr. Roberts Standard V a Jones y Sgŵl fod Owen yn "hogyn peniog iawn", aeth ati, yn ddiarwybod iddo, i feithrin ei chwaeth mewn llenyddiaeth. Yr oedd Dafydd ers blynyddoedd yn ddarllenwr eiddgar, a phob tro yr âi i Gaer Heli ar brynhawn Sadwrn, yn chwilota ymhlith y llyfrau ail—law yn y Farchnad y treuliai'r rhan fwyaf o'i amser yno. Er hynny, er ei fod mor wahanol i'r mwyafrif o'i gydweithwyr, na phrynent lyfr tros eu crogi, yr oedd yn fodlon ar ei fyd fel chwarelwr, heb chwennych dim yn wahanol. Ni feddyliai am adael y chwarel a cheisio mynd i'r Weinidogaeth, ac nid awgrymai neb hynny iddo chwaith, efallai mai am ei fod mor yswil a thawedog a'i leferydd braidd yn sydyn ac aneglur. Yn awr, a chyfrifoldeb y pen-teulu ar ei ysgwyddau, aethai'n fwy tawedog fyth, ond ni chysgai'r fam weddw un nos heb ddiolch i Dduw am gadernid tawel, diymhongar, ei mab hynaf.

Ac yntau'n tynnu at ei ugain oed ac Owen yn ddim ond deuddeg, gwyddai Dafydd nad oedd y llyfrau yr ymddiddorai ef