Tudalen:Y Cychwyn.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynddynt yn debyg o ddenu'i frawd. Cofiodd fod yn yr Ysgol gwpwrdd enfawr a'i lond o lyfrau i rai ieuainc, ac un noson wrth deithio yn y brêc o Gaer Heli yng nghwmni Mr. Roberts yr athro, gofynnodd a gâi fenthyg un neu ddau ohonynt. Câi â chroeso, a daeth Dafydd adref o'r ysgol un hwyr yr wythnos wedyn â dwy gyfrol dan ei fraich—Robinson Crusoe a Mr. Midshipman Easy. Yr oedd y ddwy, meddyliodd â gwên, yn blentynnaidd iddo ef, ond cymerai arno fwynhau pob gair ohonynt, gan ofalu gadael un ar y seld yn y gegin pan welai Owen yn anniddig o segur ar ôl swper. Ond ni fu raid i Ddafydd gymryd arno. Unwaith y dechreuodd ddarllen Robinson Crusoe, ni fedrai yn ei fyw ei roi o'r neilltu, a phan agorai Owen sgwrs am y chwarel neu'r capel neu rywbeth arall, tawedog iawn oedd ei frawd, a'i drwyn byth a beunydd yn lyfr. "Hy," meddai Owen y noson y gorffennodd Dafydd y nofel, "stori i hogyn-ysgol, myn diagan i!" "Efalla', wir, fachgan, ond mae hi'n un dda gynddeiriog ac yr ydw' i am fynd drwyddi hi eto—hynny ydi, os nad wyt ti 'i heisio hi." "Fi? Hy!" "Wel, mi ddarllena' i'r llall 'ma gynta', rhag ofn." A'r un fu profiad Dafydd yng nghwmni Midshipman Easy a Mr. Chucks ac Equality Jack a'r lleill ag wrth ddilyn anturiaethau Crusoe a Friday. Camodd ef ei hun i'r fagl a luniasai ar gyfer ei frawd, a safai Owen draw yn ddidaro, onid yn ddirmygus. Ond un noson, a Dafydd yn dychwelyd yn hwyr iawn o dŷ ei bartner i fyny ar ochr y Fron, synnodd weld bod golau yng nghegin Tyddyn Cerrig er iddo siarsio pawb i fynd i'w gwelyau a pheidio ag aros amdano. 'Mam i'r dim, meddai wrtho'i hun: yr oedd hi mor benderfynol â... â Thaid. Sleifiodd i mewn i'r gegin yn dawel, ac yno, wedi ymgolli'n llwyr yn ei lyfr, a'i ddau benelin ar y bwrdd a'i ddwylo ar ei glustiau, eisteddai Owen. Yr oedd y tân wedi hen ddiffodd a'r lamp yn mygu'n ddrwg, ond ni theimlai'r darllenwr yr oerni, ni chlywai'r aroglau, ni welai anwadalrwydd y fflam.