Tudalen:Y Cychwyn.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Be' sy gin' ti, Now?" gofynnodd Dafydd wedi iddo drin y lamp.

"Midshipman Easy."

"Taw! Dew, stori dda ydi hi, yntê?"

"Go lew, wir," atebodd Owen, gan geisio swnio'n ddifater, ond a'i lygaid yn awchus ar y llyfr o'i flaen. "Wel, tyd i'r gwely 'na, 'r hen ddyn. Bora 'fory ddaw." "Dos di i dy wely. Yr ydw' i am orffan y bennod 'ma."

"'Wyddost ti faint ydi hi o'r gloch, 'ngwas i?"

"Un ar ddeg?"

"Mae hi wedi hannar nos."

"Dim ond tair tudalen sy gin' i eto. Mi ddo' i ar dy ôl di."

"Lwc nad ydi Taid ddim yn gwbod dy hanas di. Mi ddeuda' i wrth 'Mam am beidio â sôn gair wrtho fo."

"Fy hanas i, be'?"

"Yn darllan rhyw sothach pechadurus fel'na tan oria' mân y bora. Celwydd ydi pob nofal, medda' fo, ac mae celwydd yn bechod."

"Hy, 'roedd o'n darllan un y noson o'r blaen pan on i yn Nhŷ Pella'. Ac yn chwerthin fel ffŵl."

"Oedd, mi wn. Ond mae 'Rhys Lewis' yn wahanol."

"Pam?"

"Mae hi'n delio â phregethwr yn un peth, ac yn fwy o ddameg na stori, medda' fo, ac yn . . . yn Gymraeg."

"Mae gin' ti hawl i ddeud celwydd yn Gymraeg, mae'n debyg, ond ddim yn Saesnag?"

"Gofyn di hynny i Taid, Now bach . . . Wel mi osoda' i'r tân i 'Mam at y bora tra byddi di'n gorffan y bennod 'na. Ond fi pia' hwn'na nos 'fory, cofia di 'rŵan. Mi gei di'r llall os lici di."

"Croeso iti ohono fo. Dim ond isio gweld sut stori oedd hi yr on i." Y nos, drannoeth, er hynny, yn lle mynd i'r Gymdeithas Lenyddol, ar fwrdd yr Aurora yr aeth Owen, ac yr oedd yn