Tudalen:Y Cychwyn.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

falch i ddarlith y Parch. Ebenezer Morris ar Ddirwest barhau am awr a hanner ac i Ddafydd orfod oedi yn y Festri am hanner awr arall ym mhwyllgor y Gymdeithas. Gorffennodd y llyfr y noson honno.

Yr oedd eraill o storïau'r Captain Marryat—Masterman Ready, Peter Simple, Jacob Faithful, a Poor John—ymhlith y llyfrau yng nghwpwrdd mawr yr Ysgol, a thrwy'r gwanwyn a'r haf llosgai'r lamp yn hwyr yn aml yng nghegin Tyddyn Cerrig. Owen oedd y pechadur pennaf, a phan ddarganfu nofelau Scott a Dickens, gorfu i'w fam, a ddeffroesai ambell noson yn oriau mân y bore i ganfod golau o'r gegin ar lwybr yr ardd, godi droeon i yrru'r darllenwr i'w wely. A bellach, ar ei ffordd o'r Ysgol â llyfr dan ei fraich, ni faliai pan welai Will Cochyn yn taflu'i ben i fyny ac yn poeri'n ddirmygus i'r lôn. Na phan ddaliai Huw Rôb ef yn sgwrsio'n frwdfrydig efo Mr. Roberts Standard V.

Ffarweliodd Jones-Parry â Chwarel y Fron yn nechrau Awst a daeth Rheolwr newydd, dyn o ardal Llanarfon, i gymryd ei le. Penderfynodd ei gi bach, y Stiward Gosod John Humphreys, hefyd ymddeol yr un pryd, a chytunai gwŷr gorau'r chwarel fod cyfnod heulog o chwarae—teg yn ymagor, yn enwedig pan ddaeth y si fod Richard Davies, er nad oedd nac Eglwyswr na Thori, wedi'i ddyrchafu'n Stiward Gosod.

"Dyn da, er mai fi sy'n deud hynny, a finna'n ista' yn y sêt tu ôl iddo fo yn y capal," meddai Huw Jones wrth Owen. "Gŵr bneddig i'r carn. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Mae 'na wŷr bonheddig hyd yn oed ymhlith y Batus, wsti," eglurodd Elias Thomas yn ddwys. Pur anaml y ceisiai ef fod yn ddigrif, ac yn ddieithriad bron, ar draul enwad Huw Jones y dôi'r ffraethineb.