Tudalen:Y Cychwyn.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dros y lle, ac ymhen ennyd ymddangosodd George Hobley yn nrws ei lety yn llewys ei grys. Chwifiodd law arnynt, diflan— nodd, rhuthrodd allan wedyn gan wisgo'i gôt ac â brechdan fawr rhwng ei ddannedd. Pan gyrhaeddodd y cwmni ysgwydd y domen a godai rhyngddynt a'r bonc, oedodd Owen wrth ochr Elias Thomas i syllu ar yr olygfa, ac yna dilynodd y ddau y lleill yn araf heb ddywedyd gair. "Ia, Ia, wir, fachgan," meddai'r hen flaenor yn ddwys ymhen ennyd, a gwyddai Owen fod ei feddyliau yntau'n crwydro'n ôl i'r bore Llun arall hwnnw, flwyddyn ynghynt.

Troes Owen i mewn i hen wal ei dad ar ei ffordd drwy'r bonc. Yr oedd Dafydd yn newid ei gôt cyn cychwyn i lawr i'r Twll.

"Wel, sut mae'r jermon yn teimlo?" gofynnodd.

"Jermon?" meddai George Hobley'n herfeiddiol. "I bwy?"

"Mae Huw Jones a Lias Tomos am 'i gymryd o."

"Ond damia . . . "

"Be', George?" Dim ond dau air, ond gwnâi'r dôn i Owen feddwl mai llais ei fam ac nid un Dafydd a glywai. "Be' sy o'i le ar y wal yma? Os medar Huw Jones a Lias Tomos 'i gymryd o fel jermon . . . "

"O, mae o a'r hen Lias yn dipyn o lawia', wsti. A Huw Jones o ran hynny. Ac efo nhw mae o wedi bod ers misoedd, yntê? Ond dyna fo, matar i Now ydi o. Mi geiff o benderfynu, ar ôl meddwl dros y peth hiddiw."

Ond gwyddai Owen mai at Elias Thomas yr hoffai Dafydd iddo fynd. Ac fel o'r blaen yng nghwmni'i dad, cofiodd am ddyn meddw yn honcian allan o'r Crown ac am "y George Hobley 'na" y soniai'i fam amdano. Eto, hen foi iawn oedd. George, y caredicaf dan haul, heb ddichell yn y byd, mor ddiniwed â phlentyn. Ond ped âi ato ef a Dafydd, ni wnâi'i fam ond pryderu yn ei gylch, ac wedi'r cwbl, yng ngofal Elias Thomas a Huw Jones y dysgodd ei grefft.