Tudalen:Y Cychwyn.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mi fydd Now 'ma'n enwog ryw ddiwrnod, 'gewch chi weld," oedd barn Huw Jones. "Fel prygethwr ne' rwbath. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

Ond ni ddywedai Elias Thomas ddim yr oedd ef ac Owen Gruffydd a Dafydd yn hollol fud ar y pwnc, fel petai rhyw gynghrair rhyngddynt. Ymhen blynyddoedd, pan edrychai'r Parch. Owen Ellis yn ôl ar ei yrfa, yr oedd yn sicr i'r tri hyn, yn ddistaw bach, lunio'i ddyfodol—Dafydd drwy ofalu ei fod yn darllen llawer yn Gymraeg a Saesneg, Elias Thomas drwy'i wthio i'r amlwg bob cyfle a gâi yn y capel, Owen Gruffydd drwy'i ddisgyblu fel llefarwr. Y tri hyn, fe wyddai, a'i moldiodd ef yn ddiarwybod iddo, a'r mwyaf ei ddylanwad o'r tri hyn oedd Dafydd.

Pan adawodd Owen ddosbarth Elias Thomas yn yr Ysgol Sul a dringo i un llanciau rhwng un ar bymtheg ac ugain oed, dewiswyd Dafydd tua'r un pryd yn athro ar y dosbarth hwnnw. Ni hoffai Owen hynny: pwy oedd Dafydd ei frawd i'w ddysgu ef a Huw Rôb a Wil Cochyn ac eraill? Ac am Suliau lawer llafuriodd Dafydd yn wyneb sisial a direidi ac ystrywiau o bob math, er iddo fenthyca ac astudio amryw esboniadau a llyfrau ar gyfer y gwersi.

"Pam yr wyt ti'n edrach mor ddigalon, Dafydd?" gofynnodd ei fam iddo amser te un prynhawn Sul. "Be' ydi'r matar?"

"Dim o bwys, 'Mam."

"Y dosbarth 'na sy ar dy feddwl di?"

"Wel, ia. Yr ydw' i wedi gwneud fy ngora' efo fo." Ochneidiodd, ond gan daflu winc arni. "'Dwyt ti ddim am 'i roi o i fyny?".

"Ydw'. Mi fydd yn ddigon hawdd i Ifan Ifans ne' rywun 'i gymryd o."

"Yr Hen Phar!" meddai Owen â dirmyg mawr.

"O, mae'r hen Ifan yn gwbod 'i Feibil, wsti," ebe Dafydd, "a fo ydi'r tebyca' o fedru cadw trefn arnach chi. 'Fedra' i ddim, beth bynnag, mae hynny'n amlwg. Piti hefyd, a finna'n