Tudalen:Y Cychwyn.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cael y maes yn un hynod ddiddorol . . . 'Ga' i banad arall, 'Mam?"

"Be' ddigwyddodd hiddiw?" gofynnodd hi wrth dywallt y te.

"Y Wil Davies 'na—Wil Cochyn, chwedl Now 'ma."

Tynnodd Dafydd o'i boced ddau ddarn o bapur a'u hestyn i'w fam. Llun y Parch. Ebenezer Morris, y gweinidog, a oedd ar un, a pheint enfawr, ewynnog, o'i flaen, ac ar y llall gwenai wyneb tew Huw Rôb rhwng adanedd angel. "Mi ges i afael yn y ddau yna."

Chwarddodd Owen a Myrddin yn uchel pan welsant hwy, ac er y ceisiai hi edrych yn gas, yr oedd awgrym o wên ar wefusau'r fam.

"Mae o'n glyfar efo'i law, mae'n rhaid dweud," meddai hi.

"Ydi." Ond, o fwriad, swniai Dafydd yn sych, gan guddio'i edmygedd.

Crwydrodd allan i'r ardd ar ôl te, ac ymhen ennyd dilynodd Owen ef yno.

"'Wyt ti o ddifri, Dafydd?"

"O ddifri?"

"Ynglŷn â'r dosbarth."

"Ydw', debyg iawn. Mi ga' i air efo Richard Owen, yr Arolygydd, heno ar ôl capal . . . Piti am yr hen goeden 'fala' 'na, yntê? Dyma'r ail flwyddyn i'r 'fala' syrthio'n rhai bychan oddi arni hi. 'Chawn ni ddim un ohoni hi."

"'Fasat ti'n dal ymlaen 'tasan ni'n . . . byhafio?"

"Rhyw bryfyn sy ynddi hi wsti. Rhaid inni holi John Jones Gardnar pan wela' i o."

"'Fasat ti'n dal ymlaen 'tasan ni'n . . . byhafio?"

"Nid y byhafio sy'n fy mhoeni i . . . Mi welis i o'n golchi coed Jones-Parry efo rhyw stwff. 'Roedd gynno fo bwmp i da flu'r peth trostyn' nhw."

"Be' sy'n dy boeni di, 'ta'?"

"Ynglŷn a'r dosbarth? O, y diffyg diddordab. 'Dydach chi ddim fel 'tasach chi'n gwrando arna' i nac yn malio be' sy