Tudalen:Y Cychwyn.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ohonyn' nhw inni, ond ydi? Maen' nhw tua dwy droedfadd sgwâr, yr ydw' i'n meddwl."

"Reit." Cododd Huw yn bwysig. "Ydi'r Beibil gynnoch. chi?” "Beibil? O, hwnnw sy â'r mapia' ynddo fo? Ydi, mi a' i i'w nôl o 'rŵan, a'r llyfr yr on i'n sôn amdano fo."

"Mi fasat yn meddwl mai fo sy'n mynd i dynnu'r mapia' a'r llunia', Now," meddai Wil wedi i Ddafydd adael y gegin.

"A 'fedra' fo ddim tynnu llun bwgan brain, myn diân i!"

"Yr ydw i'n mynd i ofalu bod rhain yn cael 'u tynnu," oedd ateb Huw. "Mi wyddost un mor ddigychwyn wyt ti, a 'thaem ni'n dibynnu arnat ti, 'welen ni ddim ar bapur cyn 'Dolig. Wel, yr ydan ni'n tri'n mynd i gwarfod yn tŷ ni nos 'fory. Mi ofynna' i i 'Mam wneud tân yn parlwr ac mi gawn ni lonydd yno i ddechra' ar y map cynta'—Now i ddarllan y bennod a studio'r map, a finna' i estyn petha' iti. 'Dydan ni ddim yn mynd i siomi Dafydd."

"Rhoi siomiantigath iddo fo," meddai Wil yn amharchus, mewn llais dwfn.

"Aros di nes ei di allan, Cochyn."

Bu'r cynllun yn llwyddiant mawr, a daeth Owen yn awdurdod ar rannau olaf yr Actau, Wil yn fapiwr a thynnwr lluniau heb ei ail, a Huw yn—"giaffar" llond ei groen. Yn y seiadau hynny ym mharlwr Huw Rôb, fel y cofiai'r Parch. Owen Ellis bob tro y codai destun yn yr Actau, y ganwyd ei ddiddordeb mawr yn yr Apostol Paul. Yno hefyd y sylwodd mor ddu oedd llygaid Mary, chwaer Huw.

Yn y tŷ, Dafydd; yn y capel ac yn y chwarel, Elias Thomas. Am bregethau a phregethwyr yr oedd sgwrs yr hen flaenor beunydd. Pan aethai Owen i'r chwarel gyntaf, gwrandawai arno'n ddifater—yn wir, yn fingam braidd, a'i osgo'n awgrymu mai'r Seiat, nid y bonc, oedd y lle i bethau felly. Ond fel y