Tudalen:Y Cychwyn.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

treiglai amser heibio, daeth yntau, fel ei dad o'i flaen, i dalu mwy a mwy o sylw i eiriau tawel Elias Thomas.

Ym meddwl iach bachgen deuddeg oed, prin iawn oedd cysgodion beirniadaeth. Yr oedd pawb o'i gwmpas yn llawn rhamant—Huw Jones a'i het galed amharchus a'r cnwd o flew yn ei glustiau; Robin Ifans a'i dafod cyflym; George Hobley uchel a diofal ei lais; Ifan Ifans, a wisgai gôt laes a bwa gwyn i fynd i'r capel hyd yn oed ar noson waith, mewn hen hen ddillad wrth y drafael neu ar y ffordd i'r Twll; Elias Thomas wyredig yn trin cerrig yn lle trin adnodau yn yr Ysgol Sul. Ond wedi pylu o'r newydddeb a thyfu o'r bachgen yn llanc, ciliodd yr hud a'r lledrith: aeth het Huw Jones yn llai digrif a thafod Robin Ifans yn llai ffraeth, gwaeddai George Hobley ormod wrth siarad, a phan droai llais main Ifan Ifans yn ddwys, cofiai Owen am y clytiau o gerrig a gawsai ef a bechgyn eraill ganddo. O bawb yn y bonc, Elias Thomas fwyn a thawel a wisgai orau.

Pregethwyr y Methodistiaid oedd ei arwyr ef, a phan lithrai i mewn i ymgom, "Yn 'i bregath fawr ar y testun 'Seimon, fab Jona, 'wyt ti'n fy ngharu i?' y gwnaeth y Doctor John Hughes, Caernarfon, y sylw..." neu "William Prytherch, Y Gopa, yn 'i bregath ar 'hau a medi' glywis i'n deud. . ." neu "Pan ddaeth Matthews, Ewenni, â'r 'ddafad golledig' i Gaer Heli a'i chario hi—y Beibil mawr oddi ar y pulpud, wrth gwrs— yn ôl a blaen ar 'i ysgwydd, yr ydw' i'n cofio..." neu rywbeth tebyg oedd ei eiriau cyntaf yn ddieithriad bron. Clywsai, pan oedd yn ifanc, John Elias a William Roberts, Amlwch, ar eu gorau, a gallai adrodd darnau o bregethau John Jones, Tal-y-sarn, a Henry Rees, a'r athrylith ifanc o Fôn, William Charles, a David Jones, Treborth, bron air am air. Er nad oedd yn ddyn. cryf, cerddai filltiroedd i wrando ar y Prifathro Thomas Charles Edwards neu ar y Dr. Griffith Parry neu ar John Williams, Brynsiencyn, pan ddeuai un ohonynt i'r cylch, a gwnâi pregeth fawr ef flynyddoedd yn ieuangach: yr oedd ei gam yn ysgafnach a'i lygaid yn loywach a'i wên yn fwy eiddgar am ddyddiau lawer