Tudalen:Y Cychwyn.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi'i chlywed. Cofiai destunau a phennau ugeiniau o bregethau, a phan siaradai yn y Seiat, mwynhâi pawb ei glywed yn dyfynnu stori neu eglureb o bregeth a glywsai neu a ddarllenasai —bob tro gan ymddiheuro am ei ffordd anghelfydd o'i dweud. "Ond dyna fo," meddai, "does gen' i mo'r ddawn na'r llais i wneud cyfiawnder â hi. Yr oedd llais y Doctor Owen Thomas, meddan' nhw i mi—nid fy mod i'n credu hynny, cofiwch—yn ddealladwy filltir a hannar i ffwrdd ac yn glywadwy am bedair milltir, a finna' efo fy ngwich o lais yn cael trafferth i dynnu sylw Esthar acw pan fydda' i ar ben y grisia' a hitha' i lawr yn y gegin."

Yr oedd ei gof yn rhyfeddol, a dyfynnai'n helaeth a hynod gywir o'r llyfrau a ddarllenai—"Geiriadur Charles", "Cyfatebiaeth Butler", "Traethodau Lewis Edwards", "Hanes Methodistiaeth", cofiannau a chyfrolau o bregethau. Bob yn eilnos, cyn troi i'w wely, treuliai awr gydag un o'r llyfrau hyn neu gyda'i Feibl, ac yna pan drawai'r cloc ddeg o'r gloch, caeai'r llyfr yn araf, tynnai'i sbectol, a syllai'n dawel am chwarter awr i weddillion y tân, gan fyfyrio ar yr hyn a ddarllenasai. Haf a gaeaf, gŵyl a gwaith, cadwai'r hen flaenor y ddefod hon, a pharchai Esther Thomas dawelwch meudwyaidd ei gŵr ar y nosweithiau hynny, er mai "difetha'i lygaid" yr oedd efo'i "hen lyfra'." Codai dadl rhyngddynt weithiau, pan welai hi ei fod yn flinedig neu'n ddi-hwyl, ond pur anaml y llwyddai i'w ddarbwyllo ac "Yr ydw' i'n mynd i'r gwely a'ch gadal chi efo'ch hen drwyn yn eich hen lyfr," fyddai diwedd yr anghydfod fel rheol.

Er ei fod yn ddarllenwr mor fawr, ychydig o ddiddordeb a gymerai mewn llenyddiaeth yn wir, hoffai ddilorni'r beirdd a'r llenorion er mwyn profi'i gred ddi-sigl-ystyfnig, ym marn Owen Gruffydd—mai yn ei phregethwyr yr oedd mawredd Cymru. Pa rai o'r beirdd, gofynnai, a oedd yn deilwng i ddatod carrai esgid John Elias neu Henry Rees neu John Jones, Tal-y-sarn, neu'r Dr. Owen Thomas? Neu gewri llai fel