Tudalen:Y Cychwyn.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edward Morgan, y Dyffryn, neu Joseph Thomas, Carno, neu'r Doctor John Hughes? Neu—a braidd yn anfoddog yr âi Elias Thomas tu allan i'w enwad eu hun—a oedd yn un ohonynt yr ysbrydiaeth a oleuai bregethau Christmas Evans neu William Aubrey, neu John Evans, Eglwys Bach, neu Hiraethog, neu Herber Evans? Cythruddid Owen Gruffydd, a rhuai linellau o waith Eben Fardd neu Ddewi Wyn o Eifion yn ei wyneb, a'i utgorn o lais yn gwneud i Esther Thomas ruthro mewn braw o'r llofft neu o'r cefn atynt i'r gegin. Ond ni threchid Elias Thomas gan huodledd Owen Meurig. "Rhoswch chi, Owen Gruffydd," gofynnodd yn dawel un noson pan ddigwyddodd Owen alw yno gyda'i daid, "nid Eben Fardd bia'r englyn yma—

'Trwy y niwl Catrin Ellis—a ganfu
Y gwynfyd uchelbris . . . '?"

"Twt, yr oedd hyd yn oed Homer yn hepian weithia'," torrodd Owen Gruffydd yn wyllt ar ei draws. "Oedd," cytunodd Elias Thomas yn slei, "ond fe wnâi iawn am hynny, chwara' teg iddo, drwy godi i dir uchel mewn lle arall. Mi fydda' i'n hoffi'r llinella' hynny luniodd Eben Fardd ar ôl y ferch honno o Ardudwy, wchi." "Pa rai ydi'r rheini, Lias?" Ac eisteddodd Owen Gruffydd yn ôl yn ei gadair gan wenu ar Owen a theimlo bod nosweithiau lawer o ddadlau tros achos barddoniaeth o'r diwedd yn dwyn ffrwyth. "Rhoswch chi . . . O, ia . . .

'Sylwch ar hanes Elen
Fu arw ei chwymp o'r frech wen' . . . "

"Tyd, Owen, tyd." A chododd Owen Meurig yn chwyrn a brasgamu ymaith i'r drws nesaf, ei dŷ ei hun, gan haeru wrth roddi daeargryn o glep i'r drws nad âi'n agos at ei gymydog yrhawg. "Mae'r hen lymgi'n benthyg llyfra' gin' i dim ond i chwilio am linella' fel'na, wsti. Er mwyn dadla'n hurt a dim