Tudalen:Y Cychwyn.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arall. Piti dy fod di'n gorfod gweithio yn yr un wal â'r hen ffwl, ynte?" Ond gwyddai Owen y byddai'i daid yn mwynhau cwpanaid o de wrth dân Elias Thomas y noson ganlynol yr un modd.

Elias Thomas oedd y Pen Blaenor yng nghapel Siloam, a gofynnai'r swydd honno am amynedd anfeidrol weithiau, yn enwedig pan ddôi llygaid barcud y disgyblwr llym Ifan Ifans of hyd i 'bechadur'. O graig a thŵr YR EGLWYS syllai Ifan Ifans yn ffiaidd ar gors ffolineb ac aflendid Y BYD, a phan ganfyddai ynddi rywun a fynychai'r cysegr, llithrai gorfoledd milain i'w drem a defnyddiau araith finiog i'w feddwl. Yr oedd yr hen frawd ar ben ei ddigon pan ddôi cyfle i gyhuddo rhywun o feddwi neu regi neu ymladd, o "ieuo yn anghymharus" neu o "esgeuluso moddion gras" neu hyd yn oed o "ddewis y Syrcas yng Nghaer Heli yn lle'r Gyfeillach yn Siloam". Chwarae plant iddo ef oedd diarddel mam ddibriod—nid oedd eisiau dychymyg i weld y pechod hwnnw—ond yr oedd disgyblu dwy wraig am "anghytuno â'i gilydd" neu ŵr am "ganu maswedd" neu am "dorri'r Sabath" yn orchestwaith. Disgyblu? Fe'u torrai allan o'r Seiat bob copa walltog ohonynt pe câi ef ei ffordd. Ond ni châi ei ffordd ar ei ôl bob gafael codai Elias Thomas yn y Sêt Fawr, yn fwyn a charedig i sôn am drugaredd Duw ac am faddeuant llawn a rhad. A throai'r pechadur, a oedd yn herfeiddiol o flaen Ifan Ifans, yn wylaidd ac edifar a'i draed diolchgar yn benderfynol o aros ar y graig byth mwy.

Elias Thomas hefyd oedd Llywydd y caban ym Mhonc Britannia, a buan y tawelai ymryson a rhegfeydd yn ei ŵydd, er bod angen doethineb mawr i gadw pleidiau'r bonc—Undebwyr a'r rhai na pherthynent i'r Undeb, capelwyr ac eglwyswyr, cefnogwyr a gwrthwynebwyr Gladstone, y gor-grefyddol fel Ifan Ifans a'r anystyriol fel George Hobley, cynffonwyr fel Robin Ifans a dynion cydwybodol a diweniaith—rhag ffraeo'n