chwyrn. Pryderai lawer, fel y cyfaddefodd droeon wrth Owen, ynghylch clebran dibwrpas yr awr ginio, a cheisiai ef ac eraill lunio adloniant a chynnal dadleuon i ddiddori'r caban. Ond byr oedd hoedl y pethau hynny, a daliai'r hen flaenor i ysgwyd ei ben yn llwm. Cynhelid 'cwarfod' weithiau—i anrhegu hen frawd a fwriadai roi'r gorau i weithio neu ddyn ifanc ar fin priodi neu i godi cynrychiolwr ar ryw bwyllgor—ac ymgasglai nifer ambell awr ginio i wrando ar y 'darllenwr' yn darllen yn uchel o ysgrifau Thomas Gee yn 'Y Faner'. Ond, gan amlaf, mân siarad oedd y drefn ymhlith y mwyafrif, a phan ddewiswyd Owen yn 'ddarllenwr', ac yntau'n ddwy ar bymtheg, teimlai hi'n anodd cystadlu â lleisiau eraill ym mhen arall y caban a oedd yn dadlau ynghylch rhinweddau "White Wyandottes" neu'n clodfori "Sharpes Express" neu'n haeru, fel y gwnâi George Hobley, mai yn y "Pig and Whistle" yr oedd cwrw gorau Caer Heli.
"Mae George Hobley yn hogyn clên ac yn weithiwr heb 'i ail," meddai Elias Thomas un prynhawn yn y wal pan gwynai Owen am ei lais uchel. "Ond gresyn na fasa' fo wedi cael gras, chwedl yr hen Fari Lewis."
Rhoes Huw Jones ei gyllell-naddu ar ei lin am ennyd a syllodd yn dosturiol ar ei bartner. "'Wni ddim ar bwy y byddwch chi'n gwrando nesa', Lias Tomos," meddai.
"Gwrando, Huw?"
"Ia. Y Mari Lewis 'na o bawb! 'Dydi hi ddim ffit i fyw y drws nesa' i unrhyw gapal, heb sôn am gapal Batus. Os oes 'na rywun heb ras, Mari Lewis ydi honno. Ne dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag. Neithiwr ddwytha', pan on i'n mynd heibio ar fy ffordd i'r capal, y clywis i hi'n rhegi un o'r plant ar dop 'i llais."
"Am Fari Lewis arall yr on i'n meddwl, Huw. 'Wyt ti ddim wedi darllan y nofal Rhys Lewis gan Ddanial Owen?"
"Danial Owen... Danial Owen." A chwiliodd Huw