Tudalen:Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Beuno a droes iddo saith
Nefolion yn fyw eilwaith;
Gwae eilwaith fy ngwir galon
Nad oes wyth, rhwng enaid Siôn.

O, Fair, gwae fi o'i orwedd,
A gwae fy ais gau ei fedd;
Yngo y saif angau Siôn
Yn ddeufrath yn y ddwyfron;
Fy mab, fy muarth baban,
Fy mron, fy nghalon, fy nghân;
Fy mryd cyn fy marw ydoedd,
Fy mardd doeth, fy moeth im' oedd;
Fy nhegan oedd, fy nghannwyll,
Fy enaid teg, fy un twyll;
Fy nghyw, yn dysgu fy nghân,
Fy nghae Esyllt, fy nghusan;
Fy nyth, gwae fi yn ei ôl,
Fy ehedydd, fy hudol;
Fy Siôn, fy mwa, fy saeth,
F’ymbiliwr, fy mabolaeth.

Siôn y sy'n danfon i'w dad
Awch o hiraeth a chariad;
Yn iach wên ar fy ngenau,
Yn iach chwerthin o'r min mau;
Yn iach mwy ddiddanwch mwyn,
Ac yn iach i gnau echwyn;
Ac yn iach bellach i'r bêl,
Ac yn iach ganu uchel;
Ac yn iach, fy nghâr arab,
Iso'n fy myw, Siôn fy mab!