Tudalen:Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Saeson Fflint

LEWIS GLYN COTHI

DEUTHUM ddywsul diwethaf
—Dyn wyf a luniodd Duw Naf —
I gaer ddwbl groengwbl gringam,
Y Fflint, a welwyf yn fflam!
Lle'r oedd neithiawr heb fawr fedd,
Sais yn eglur, Seisnigwledd.
Ar addaw cael yr oeddwn,
Oherwydd crefft, hoywrodd crwn.

Dechreuais, ffrystiais yn ffraeth,
Ganu awdl i'r genhedlaeth.
Gwatwaru, llysu fy llais,
Gofid yno a gefais.
Hawdd gan borthmyn haidd ac ŷd,
Faeddu fy holl gelfyddyd,
Ac am fy ngherdd y chwerddyn,
Parod gân fawl, prid gennyf hyn.
Sôn am bys wnai Siôn Beisir,
Sôn o'r ail am dail i'w dir.
Galw i'r ford, gwaelwr a fydd,
O bawb am Wiliam Bibydd!
Dyfod o hwn, defawd hawl,
Ger bron nid fal gŵr breiniawl,
A chod leddf, foel berfeddfaich,
Ymhen ffon rhwng bron a braich.