Pobl weddol, ddeddfol ddiddig,
Mwynwych odiaeth, tyngu ychydig;
Nid yw'r merched hyn trwy'r flwyddyn
Yn nyddu fawr wlanenni a brethyn.
SIR DREFALDWYN.
Tref Drefaldwyn a'i theg fwynderau,
Ynghylch coed a thiroedd goreu,
Yr eilfed ddydd-ar-hugain Hydref,
Fair a'r Lun a Sadwrn mawredd.
Cwmpas Dyfi a Chedewyn
Dau le hyfryd dolydd Hafren;
O Llanidloes i Fachynlleth
Defaid lawer, gweuoedd odiaeth.
Pobl lân, foneddig hefyd,
Nemawr un yn tyngu'n ynfyd,
Yn myn'd i'r Llanau'n aml lawnion,
Heb fawr awydd dynu'n groesion.
RADNOR.
Tref Faesyfed yw'r un nesa',
Y pedwerydd-ar-ddeg Awst amla';
Seisnigaidd iawn yw'r bobl hwythau,
A digon mwynion yn mhob mannau.
Rhan o waith y merched cywrain
Yw nyddu peth er rhaid eu hunain;
Trin y gwlân i fyn'd i'r farchnad,
A gwau hosanau oddeutu Rhaiad,
SIR FRECHEINIOG.
Wrth ochr hon mae Tref Frecheiniog
Sydd a'i ffair yn hwylus hynod;
Yn Aberhonddu y cyntaf Fercher,
Ar ol Gwyl Ddewi y mae eu harfer,
Gwna'r merched hyn yn gofus gyfan
Bob gwaith ty i mewn ac allan;
Gwau hosannau trwy'r holl flwyddyn
O Llanfair i Abergwesyn,
SIR ABERTEIFI.
Nesa' 'nawr Tref Aberteifi,
A'i ffair ar bummed Ebrill heini';
Gwau hosanau'r haf mae'r merched rheini
At ffair Rhôs gan lawer hyswi.
Tudalen:Y Ffeiriau Hynotaf yn Ddeuddeg Sir Cymru.pdf/3
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon