CAERNARFON.
Y nesa i hon mae Ffair Gaernarfon,
Ar bedwerydd o Fawrth greulon;
Gyrfa fawr o bob 'nifeiliaid,—
Ceffylau, gwartheg, geifr, defaid.
Y merched hyn sydd rhyfedd wynedd,
Llygaid llon, llawn gwir amynedd;
Yfant "enwyn" lawer oddeutu
Yr Wyddfa, mynydd uwcha' Cymru.
SIR FEIRIONYDD.
Yn Swydd Feirionydd, hardd-deg fryniau,
Y goreu ffair sydd dre' Dolgellau;
Mewn caws a ymenyn os gwnewch ennill,
Treiwch unfed-ar-hugain Ebrill.
Oddeutu'r Arran ar Ardidwy
Mae'r defaid cigog brasa' Nghymru.
Bara ceirch sydd yn mhob annedd,
Caws, ymenyn, llaeth ddigonedd.
Pobl fywiog, ddigon llawen,
Merched lleiaf a'u cenfigen;
Y gwyr am ddarllen ac am ganu,
Y Cymreigyddion goreu yn Nghymru.
SIR. DDINBYCH.
Tref Ddinbych yw'r bedwerydd,
Canaf am ei ffeiriau beunydd;
Pob dydd Mawrth pob mis arferodd,
Hon ei chadw er Hen Oesoedd.
Mae'r amla" ddynion, goreu eu doniau,
Heb lwon geirwon ar eu geiriau;
Gwneud gweuoedd culion geirwon gwlanog
O lan Rhaiadr i Lyn Ceiriog.
SIR FLINT
Tref y Flint sydd nesa' o'r cyfan
I allu byw ar stock ei hunan;
A'i Ffair a gynhelir heb un mwstwr
Ar y nawfed dydd o Chwefror.
Er bod y gwenith goreu yma,
Bara Myncorn haidd sydd amla';
Ymenyn, llaeth, sydd yn helaetha',
A phrinder caws sydd yno fwya".
Tudalen:Y Ffeiriau Hynotaf yn Ddeuddeg Sir Cymru.pdf/2
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon