Y FFEIRIAU HYNOTAF
YN DDEUDDEG SIR CYMRU;[1]
Yn cynnwys hysbysiad o'r dyddiau a'u cedwir: y pethau
goreu yn mhob un o honynt: merched yn mhob Sir:
a
pha le mae'r ceffylau, gwartheg, defaid, gwlanenni, a
brethynoedd goreu i'w cael.
—Cenir ar y dôn "Dolau
Gwerddon."—Pris Ceiniog.
Gawrandewch yn bwyllog oll heb ballu,
Cewch glywed " Ddyddiau Ffeiriau Cymru;"
Rhyw awch alar y rhai â chwaled,
"Briwiau Gwyliau yr Hen Frytaniaid,"
Canaf yma am hynotta Ffeiriau yn hen leoedd Gwalia;
Y merched glanaf, glenydd, gweithoedd,
Sydd i'w canfod yn ein Siroedd,
Mia glywais fod yr amcan
Droi ein " Ffeiriau" yn hollol wyrgam;
Duw'n gwaredo rhag penboethder
Droi " Gwyl Ddewi" yn "Wyl Mercher,"
Mae er Ddewi dda mae'n hysbys,
Yr hwn oedd Batrwn Saint ein. Ynys,
Ddeuddeg cant o flynyddoedd hirion,
Cyn dyfodiad neb amheuon,
Os daw gofyn pwy a'i canodd,
Dyn yn fanol'a drafaeliodd,
Yn rhoi o arwydd ar ei eiriau
Y gwir heb goll yn oreu y gallai.
—D.T., (Owain Cyfelach.)
SIR FON.
Yn Sir Fon mae Ffair Beaumaris
Ar drydydd-ar-ddeg o Chwefror ddengys;
Ceffylau teg—rhan fwyaf wynion,
Defaid lawer—rhai yn llwydion.
Gwaith y merched fwya' o'r flwyddyn
Yw parattoi yr yd a'r enllyn;
Rhai gwlanenni maent yn nyddu
I gynnesu eu gwyr y Cymry.
- ↑ Cyn adrefnu llywodraeth leol, 1974 bu 13 sir yng Nghymru, ond bu amwysedd a dadlau os oedd Sir Fynwy yng Nghymru neu yn Lloegr yn ystod y 19g. Ee: enw gwreiddiol Prifysgol Cymru Caerdydd oedd Prifysgol De Cymru a Mynwy. Gweler OME:Mynwy yng Nghymru (Cymru Cyf X Rhif 57)