Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PELLTER
(Most. 131)

Byd digllon i'm bron, heb wres, dy belled,
Dibwyllodd fy mynwes;
Byd rhyflin bod rhyw afles,
Byd da 'n wir be baut yn nes!

—PRYDYDDES DDIENW O SIR DDINBYCH.


RHWNG DAU
(P.M.)

"Amdanad mewn gwlad mae 'n gledi gwallus
Am golli dy gwmni;
Dwysach oedd na 'm dioesi,
Dwysa dim dy eisiau di."

"Cei fynwes gynnes genni, cu fwynwalch,
Cei f' einioes, os mynni;
Cei fy llaw yn dy law di,
Cei fy nerth cyfan wrthi."

—DIENW.


TRASERCH
(N.L.W. Add. 436)

Treiglo, trwm ddigio trwy ymddygiad traserch,
Nid rheswm mo 'i fagiad;
Trwm ydyw'r plwm a dur plâd[1]
Trwm awch cur, trymach cariad.

—DIENW.


UNWAITH
(C.M. 5)

Amser drwy fwynder a fu mai cynnes
Y cawn dy gusanu;
A digerydd, dy garu
Eto a gaf, wyt ti gu!

—ELIS AB ELIS.


  1. dur plâd, plât, o'r Saes. plate.,