Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CEGWM

Edrydd y gwledydd dy glod oherwydd
Dihirwch dy dafod;
Derfydd y gwledydd a'th glod
Wedi dofi dy dafod.

—DIENW.


CELWYDD
(Most. 144)

A ddywed gelwydd heb weddïo Duw,
Ffordd y dêl i rodio,
O dywed wir drahir dro,
Gwylied na chaiff ei goelio.

—WILIAM LLYN.


CONACH
(B.M. 14892)

Darn sy ohonot o Edeirnion genedl,
O ganol twysogion,
Darn o grydd fal derwen gron,
Darn arall o durnorion.

—GUTO'R GLYN, i Ifan Gruffudd Leiaf, a wrthododd iddo gysgu gydag ef.


CYFEDDACH
(C.M. 11)

Gad feddwon dewrion i daeru, dadwrdd,
A dwedyd heb allu,
Dos ymaith, ŵr llaith, o'r llu,
Gad y diawl gyda 'i deulu.

—HUW MORYS.