Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWEDI GWIN
(Pen. 99)

Nid da cellwair, gair a wna gwarth, Dafydd,
Ail dyfiad Deheubarth;
Nid da awen, nid diwarth
Min, yn ôl gwin, a wnêl gwarth.

—DIENW.


GWRAGEDD
(Pen. 99)

Mae gwraig heb ddim gorwegi, ddiddig,
A ddioddef ei chosbi;
Y mae gwraig—neu ymgrogi,—
A fynn hyn a fynno hi.

—IFAN TUDUR OWAIN.


GWREIDDYN


Mae'n wir y gwelir argoelyn difai
Wrth dyfiad y brigyn,
Hysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo 'i wreiddyn.

—TUDUR ALED


GWROL TRUGAROG
(Most. 131, 253)

Gwrol, tra gwrol, trugarog wrol,
Ni bu tragwrol na bai trugarog.[1]

—TUDUR ALED.


  1. Toddaid Hir yw 'r pennill, ond am fod y Gair Cyrch yn odli â'r gwant, fe wnâ bennill Rhupunt Hir hefyd —
    "Gwrol, tragwrol,
    Trugarog wrol,
    Ni bu tragwrol
    Na bai trugarog."