Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

Y MAE'N debig fod llenyddiaeth ein cyfnod ni, ar ei goreu, yn tueddu at grynoder a chynildeb ymhob gwlad. Diau fod a wnêl chwaeth rywbeth â hynny, a chwaen, efallai, lawn cymaint. Ni ddiainc dim rhag amgylchiadau a dyfeisiau mechanegol y cyfnod. Onid aeth Llundain i'r llundai, ac oni ddaw campau'r rhai a ŵyr o'r awyr? Pa faint fydd effaith y pethau hyn ar ieithoedd a llyfrau, ar y nofel a'r ddrama? Gall celfydd fel Charlie Chaplin adrodd ystori, a dodi ynddi "feirniadaeth ar fywyd," hyd yn oed, ag ystum ac ysgogiad, ac nid syndod fyddai glywed y Saeson—a'r Cymry o ganlyniad— cyn hir yn clarabowio drwy eu trwynau. Yn y dyddiau hynny, fel y dywedodd Gwenddydd gynt wrth Fyrddin, "Gwyn ei fyd y genau yn rhwydd gyfeistrin a lefaro trigair o'r iaith gysefin," bid honno yr iaith y bo. Eto, nid pethau cwbl newydd yw cynildeb a chrynoder chwaith.

Gwendid mawr prydyddiaeth ymhob iaith, ond odid, yw'r geiriau llanw a ddodir i mewn ynddi i gwpla'r mesur, i wneuthur cynghanedd neu i gadw odl. Mewn prydyddiaeth Gymraeg, y mae'r gwendid hwnnw 'n amlycach nac mewn odid iaith arall, oblegid bod y mesurau a'r gynghanedd mor gaeth a chywrain. Gynt hefyd, ystyrid mai yn y geiriau llanw yr oedd y farddoniaeth, ac y mae llawer o brydyddion eto fel pe baent yn credu 'r un peth. Nid bai'r mesurau a'r gynghanedd yn unig yw hyn, canys ni ddichon bod dim yn gwteuach a chynilach na gwaith goreu meistriaid pennaf y gynghanedd. O'r Pedwar Mesur ar Hugain, diau mai 'r Englyn yw'r rhyddaf oddiwrth eiriau na bo'u heisiau i fynegi 'r meddwl. Y rheswm am hynny yw na ellir bod yn anghryno iawn mewn deg sillaf ar hugain. Gwnaed llawer o englynion da yn y ganrif ddiweddaf, er bod agos bob peth a berthyn i grefft yr epigramwr yn groes i'w defod hi; ond eto, ni ddeil englynion goreu 'r ganrif i'w cymharu ag eiddo'r canrifoedd cynt. Ni cheir arnynt mo'r graen oedd ar waith ein tadau. Na 'r craffter. Na'r cywirdeb. Crefft Gymreig yw englyna, a bu agos iddi fynd i ganlyn yr hen grefftau gwych ereill, a giliodd o sŵn y peiriant. Nid heb achos y soniai "Syr Meurig Grynswth" am ei "beiriant englynu."

Nid rhaid yma ymdroi i holi ynghylch tarddiad yr Englyn. Fe wyddid cyn ein cyfnod ni fod rhyw gysylltiad rhyngddo ef, yn gystal a mesurau Cymraeg ereill, â mydryddiaeth Ladin. Prin y gallai fod yn amgen, yn wir. Pe ceid hanner dwsin o enghreifftiau tebig i'r pennill Lladin a gaed ar bared yn Pompei

("Balnea vina Venus, &c.[1]), odid na phrofai hynny darddiad yr

  1. Gweler Blodau o Hen Ardd. H. J. Rose a T. Gwynn Jones. Gwrecsam, Hughes a'i Fab, 1927.