Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Gestiana.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y "GESTIANA,"

SEF

Hanes Tre'r Gest, a Phlwyf Ynyscynhaiarn.


RHAN I.PRIS 6C.


PARTHEDIGAETH TRE'R GEST A PHLWYF YNYSCYNHAIARN.

SAIF y Rhandir hwn yn Nê-ddwyrain Sir Gaernarfon, Ynghwmwd Eifionydd, Cantref Dunodig. Y mae yn Nghantref Dunodig, ddau Gwmwd, sef Eifionydd ac Ardudwy. Yr oedd y rhaniadau hyn cyn bod Siroedd. Yr oedd yn Nghwmwd Eifionydd amryw o raniadau Trefol, megys Tre Benyfed oddiar Benmorfa, Tre Dolbenmaen, Tre'r Gest, &c.

MOEL-Y-GEST.

Y mae sefyllfa'r mynydd sydd yn dwyn yr enw Moel-y-Gest yn dra nodedig; saif yn hollol ar ei ben ei hun, a'i orweddiad yn wahanol i'r fraich a rêd o Gaer Dunawd, ger Crucaeth, i gyfeiriad Bryn hywel, lle terfyna y Gest. Tybir mai ystyr y GEST ydyw Cist, ceuedd, gwagle. Y mae'r ochr ddeheuol i'r mynydd yn gwpanog neu gestog. Ymddengys o'r ochr ogleddol fel rhyw Dywysoges yn lledu ei breichiau, megys. o Drwyn Cae Iago` Porthmadog, i Cefn cyfanedd, i'r gorllewin; ond o'r Garth Pen-y-clogwyn, a'r Garreg wen, ymddengys fel dau fynydd, neu yn wahanedig fel dwy Foel. Hefyd, ceir golygfa wahanol arni oddi wrth Grucaeth, a'r Ystumllyn; oddiyno ymddengys fel arlun (profile) nodedig o'r Duke of Wellington, ac sydd yn tynu sylw ymwelwyr (visitors) yn fawr.

Dywedir y cynwys ei cbrombil amryw feteloedd; cynyrchir Setts, neu gerrig llorio celyd o'i llechwedd uwchlaw nant Adda ger Penamser; yn is i lawr ar yr ochr ogleddol, bwria Sulphur o'i hymysgaroedd; yn ei hystlys ddwyreiniol ceir Llechfeini (Flags); ac ar ei hochr orllewinol, wrth Ffermdy Bronyfoel, y gweithid Chwarel Lechi, o'r hon y caid cerrig i doi llawer o dai y wlad yn niwedd y ganrif o'r blaen.