Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Gestiana.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae lle ar ben neu wastedd y Foel, a elwir "Gwastad Farchnad," ao olion tebyg fel pe buasai yno drigfanau anneddol. Nid ydys yn sicr ymha le yr ydoedd Llys y Tywysog, ond y tebyg- rwydd yw, mai Bronyfoel sef yr hen Balas a saif ynghesail orllewinol y Foel, ydoedd.

Gelwir yr haner dwyreiniol o Foel-y-Gest, yn "Foel Tuhwnt-i'r- bwlch;" y mae yno, sef ar y top neu y gopa, bantle, a hwnw yn lled wastad, ac felly canfyddir ei bod fel dwy Foel. Dywedir fod y rhan a elwir yn Foel-y-Gest, tua 1,000 o droedfeddi uwchlaw y môr. Y mae Ffynnon yn mhob ochr i'r Foel.

Gwelir o ben y Foel ar ddiwrnod clir, yr ardaloedd a'r lleoedd a ganlyn:—Machwy Aberteifi, Penychain, Carreg-yr-ymbill, Pwllheli, Penrhyn du, Llanbedrog, Ynysoedd St. Tudwal, Sir Benfro, Mynyddoedd Wicklow, rhan o Sir Aberteifi, Trwyn Celynin, Mochras, Cnicht, y ddau Foelwyn, Manod a'r Diphwys, Bryniau Trawsfynydd, a'r Ganllwyd, y Graig-ddu, Rhinogau, Lethr, Diphwys, Moelfra, Cader Idris, Garn Fadryn, Carn Bodfean, Foel ddu, Moel Hebog, a mynyddoedd eraill, a rhan o'r Wyddfa.

TREF Y GEST, TREF, A PENTREF.

Mae enw "Tref" i raddau yn ansefydlog, ac yn agored i gyfnewidiadau. Yr oedd deg-drefi (tithings), a thref, a phentrefi, yn cael eu hystyried yr un yn ngolwg y gyfraith, ac yr oedd yn ofynol yn mhob un o'r cyfryw cyn cymeryd eu henw, fod yno Eglwys lle y cynhelid gwasanaeth crefyddol, y gweinyddid y cymmun, gerllaw yr hon hefyd y cleddid y meirw.

Rhenid y Gest yn yr amser gynt, gan yr hen bobl fel y canlyn: Porth y Gest, y Gest, Gwaelod y Gest, a Pen tir y Gest (ger Bachysaint). Gelwid ardal Pentrefelin yn Waelod y Gest.

TREF-Y-GEST y gelwid plwyfydd Ynyscynhaiarn, a Threflys, a saif yn y rhan yma o Eifionydd, yn Nghantref Dunodig. Y braich tir ac sydd yn cyrhaedd o Lwynymafon, i derfyn Penystumllyn, ydyw "Pentir y Gest," sef terfyn gorllewinol Tref y Gest. [1]

  1. NOTE.—Pentref signifies as much from pen-tir-ef, it is the head of the possessions. Cwm seems to be a primitive of the same meaning with the combs of the bees: Vicus or vicum, living or dwelling together: Village is from vi-le-gi, a place of dwelling together.-ROWLAND JONES, Origin of Languages.