Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Gestiana.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TREFLYS.—Llys yn Nhref y Gest, yr hwn le a elwid gynt "Gwely Wyn ap Ednewin." Yr ydoedd yn perthyn i Gwgan ap. Madog, Ieuan Llwyd ap Ririd, ac eraill, yn y flwyddyn 1356. Meddianwyr "Gwely'r Prydyddion," yr hon oedd yn Nhre'r Gest yn amser Iorwerth y Trydydd, oedd Ieuan Llwyd, Ieuan Chwith, ac Ieuan ap Adda ap Eingan. Yn y nawfed ganrif yr ydoedd "Blaidd Rhudd o'r Gest" yn byw, ac yn ben ar y werin bobl, ac yn un o bum' llwyth Gwerinol Cymru (y lleill oeddynt Gwenwys, Heilyn Ysteilfforch o Forganwg, Adda Fras ac Alo), ac o hono ef yr olrheinia llawer o foneddigion, Cwmwd Eifionydd eu hachyddiaeth, a'u bonedd

TERFYNAU PLWYF YNYSCYNHAIARN, A THRE'R GEST.

Ef allai y bydd nodi terfynau y plwyf yn ddyddorol a phwysig mewn amser i ddyfod. Byddid yn arfer eu cerdded tua 70 mlynedd yn ol; arferiad da a ollyngwyd i lawr, fel llawer o arferion buddiol eraill. Y mae terfynau plwyf Ynyscynhaiarn, a therfynau Tre'r Gest yn gyfochrog, oddieithr y rhandir, sef Treflys neu'r Dryll sydd yn ei ganol. Gwelir hefyd fod y plwyf yn cael ei dori yn ddau, rhwng Cwt—y—defaid a Than—y—bryn, ac yn hynod o anghyriog. Cychwynir yn Nhraeth Ynys caregaethen (Farm yard), o'r afon Glaslyn, drwy ganol tir Ffarm yard (yr ydoedd cerrig gynt yn dynodi y terfynau), yna i fynu heibio i Danymarian, drwy sychnant, rhwng tir Erw Suran, a thir Cwmbach, ac yn rhedeg i'r Bryniau duon, i'r terfyn rhwng y Cwm mawr, yr Einiog, Cefncoch a'r Gesail, yna dros ael y Graig wen at Gastell y Graig, ac i lawr i'r terfyn sydd rhwng tir Ty Cerrig, a Llidiart yr Yspytty, drwy ardd Pwllgloewlas, gyda therfyn Broncynan neu Fwlch—y—fedwen, a'r Weru, a thrwy Goed-y-cefn, i'r hen ffordd oedd yn d'od oddiwrth Gwtydefaid, yna rhed gyda therfyn Coedycefn, a Chefncyfanedd, i ben y Foel, i derfyn Bronyfoel, at dir y Llanerch, a thrwy ran o Dyddynadi, a therfyn Tyddyn einion, ac i lawr y ffrwd sydd yn terfynu â thir Glanymorfa mawr, i'r môr yn y Morfa bychan.

Y môr yw y terfyn bellach, sef Bàr y Gest, heibio i Ynyscyngar, a'r Garreg goch, i drwyn Cae Iago, ac ar hyd gwely'r afon sydd yn terfynu y ddwy Sîr i'r Borth, dros y Môrglawdd, sef Cob Madog i'r Traeth tu cefn i Ffarm yard o'r lle y cychwynwyd.