Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywedodd y cwbl wrth ei chwaer yng nghyfraith —fel y gwelsai Siwan y Lleian Lwyd ar ei bore cyntaf yng Nghesail y Graig, amdani hi a Gwyn yn chwerthin am ei phen, a bod Siwan wedi ei gweld wedyn fwy nag unwaith, a neb arall wedi cael cip arni. (Ni wyddai Mrs. Sirrell am yr un tro hwnnw y gwelsai Mr. Owen hi.) Dywedodd mai mynd i chwilio am y Lleian Lwyd oedd bwriad Siwan y tro hwnnw pan aethent yn y cwch a'u dal yn y niwl, a'i bod hi yn siŵr mai dyna amcan y picnic heddiw, er na ddywedasai neb wrthi.

"Y mae Siwan yn ferch ryfedd iawn," ebe ei mam. "Y mae weithiau'n gweld pethau nas gwêl neb arall, ac y mae mor benderfynol! Yr oedd wedi mynd i gredu bod gan y Lleian yna—pwy bynnag yw hi ryw neges ati hi. Yr oedd yn mynd mor gyffrous weithiau nes peri imi ofni yr effeithiai'r peth ar ei hiechyd."

"Wel, y mae wedi gweld yn iawn y tro hwn, mae'n debyg," ebe Mrs. Owen. "Lleian yw honna, 'rwy'n siŵr. O ba le y daeth, wn i?"

"Ie, a pham y deuant â hi yma? Beth sydd ganddi i'w wneud â Siwan?" Yr oedd y ddwy wraig yn llawn cyffro wrth fethu'n lân â deall y peth.

"O, dacw hwy'n chwifio eu dwylo arnom," ebe Mrs. Owen.

Gwnaethant hwythau eu dwy yr un arwydd yn ôl. Ni allai'r bechgyn aros yn hir heb weld beth oedd yn mynd ymlaen. Daeth y ddau allan o'r tŷ mor ddistaw ag y gallent.

"Mae Nansi'n cysgu, felly nid oedd eisiau inni aros,' ebe Gwyn.