Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daeth y cwch yn nes ac yn nes, ac aeth eu syndod hwythau yn fwy ac yn fwy. Daeth Fred allan o'r cwch a cheisio'i dynnu at y traeth bach, cul, caregog. Rhedodd y bechgyn i'w helpu. Neidiodd Mr. Owen allan, a rhoi ei law i'r Lleian Lwyd. O! y syndod a gafodd y ddwy fam a'r ddau fab! Yn eu dychymyg yr oedd y Lleian Lwyd yn wraig urddasol mewn clôg llaes, dilychwin, yn gwisgo'i chroes a'i phaderau, ac ar ei phen gap gwyn pletiog o dan y cap llwyd cysgodol. Yn lle hynny, beth a welsant ond merch ieuanc aflêr ei golwg ac ofnus ei gwedd, a hen got lwyd, lawer yn rhy fawr iddi, amdani, a'r hwd wedi ei chodi dros ei gwallt du, anniben!

Ar y foment honno rhedodd Nansi allan atynt a gweiddi:

"Dadi! Dadi! Dadi! 'Rwy'n gallu siarad!"

Anghofiodd Mr. Owen am y cwch a'r môr y Lleian Lwyd, a phopeth arall, wrth wasgu ei ferch at ei galon.

Noson lawen yn wir a fu honno yng Nghesail y Graig. Nansi, Rita a Siwan oedd tair arwres y noson. Bu'n rhaid i'r tair ddweud bob un ei stori eto. Nid oedd stori hir gan Nansi—dim ond dweud am ei hofn pan welodd Siwan yn diflannu o'r golwg: yn cael ei chladdu'n fyw o flaen ei llygaid.

Tawel ac ofnus oedd Rita, wrth ateb y cwestiynau a roddid iddi. Y mae sôn yn y Beibl am osod yr unig mewn teulu. Felly y bu ar Rita, ac yr oedd yr hyfrydwch a'r diogelwch yn bethau rhy anghynefin iddi i fedru eu mwynhau'n llawn ar unwaith. Am Siwan, yr oedd hi'n ddigon bodlon iddynt chwerthin faint a fynnent am y Lleian Lwyd. Oni bai amdani