Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hi ni buasai Rita wedi ei chael na Nansi'n medru siarad.

"Siwan Siriol," ebe ei hewythr, "yr oedd gen i olwg fawr arnat ti o'r blaen, ond yn awr yr wyf yn falch gael bod yn ewythr iti. Dy galon garedig, dy ddychymyg byw, a'th fenter di-ofn a ddaeth â'r llawenydd mawr yma inni. Bendith arnat, 'merch i."

"O Nwncwl bach," ebe Siwan, "yr oeddwn yn dyheu am gael talu ichi mewn rhyw fodd am ein dwyn i'r lle hyfryd yma i fyw, a dyma fi wedi dechrau."

Nid anghofiwyd gwrhydri Fred. Arhosodd ef gyda'r cwmni hyd yn hwyr iawn, a gadael llonydd am yrhawg i'r ymwelwyr ac i'r pysgod. Efallai y deuai'r Deryn Glas â mwy fyth o lwc iddo eto ryw ddydd.

Edrychai Rita'n ferch arall—a merch dlos iawn

wrth y bwrdd swper wedi ymwisgo'n daliaidd yn rhai o ddillad Siwan. Teimlai'r ddau blentyn amddifad na byddent byth eto yn unig a diamddiffyn mewn byd didostur.

Cafodd Rita gysgu gyda Siwan yn y gwely bach ar y daflod. Buont yn edrych dros y môr at yr ogof ddu yn y pellter, a buont yn siarad yn ddi-ben-draw.

"O, Siwan," meddai Rita'n ddwys, "beth alla i ei wneud i ddangos fy niolchgarwch ichi i gyd?"

"Fe gewch weithio bore fory fel ni i gyd," ebe Siwan yn ymarferol.

Felly daeth Rita yn un o'r teulu yn ei waith ac yn ei bleserau. Beth bynnag arall a ddysgodd hi yn yr Home, ac fel morwyn i'r teulu hwnnw yn Gloucester, fe'i dysgwyd i wneud bwyd. Medrodd ddangos dulliau newydd o wneud pethau hyd yn oed i Mrs. Sirrell ac