Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Mrs. Owen. Yn raddol hefyd daeth i chwarae gyda chymaint nwyf ac asbri â neb o'r plant.

Llechai un ofn bach yn eu mynwesau i gyd. Beth petai rhywun yn cysylltu'r paragraff yn y papur â Rita? Cytunwyd y byddai'n well iddi newid ei henw dros dymor. Penderfynodd Fred a hithau y cymerai enw morwynol ei mam. Sylvia Bell oedd hwnnw.

Daethant i gyd yn hoff ohoni. Ni wyddai Mrs. Sirrell beth a wnaethai hebddi yn ystod tymor yr ymwelwyr. Pan ddaeth y tymor hwnnw i ben, aeth at y teulu i Gaerdydd i fod yn help i Mrs. Owen ac yn gwmni i Nansi. Yn ei dedwyddwch newydd newidiodd ei gwedd gymaint fel na feddyliai neb am Rita Smith y paragraff hwnnw wrth weld Sylvia Bell yn cerdded gyda Nansi ar heolydd Caerdydd. Aethai'r "scar on the temple" yn llai amlwg, ac fe'i cuddid yn llwyr gan y gwallt du, llaes. Ac yr oedd y "fawn mackintosh" wedi mynd am byth.

Yng Nghaerdydd y mae Sylvia Bell o hyd, ac y mae'r ddau deulu—yr un yng Nghaerdydd a'r teulu bach yng Nghesail y Graig yn lledu eu hadenydd cysgodol dros Fred a hithau.