Tudalen:Y Mabinogion Cymreig-sef, Chwedlau rhamantus yr hen Gymry.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

CYHOEDDWYD y Mabinogion gyntaf gan argraffydd enwog Llanymddyfri—WM. REES, YSW., Tonn—tywysog yr argraffwyr Cymreig. Er fod rhieni y boneddwr hwnw yn bobl o gyfoeth, ar ei daer ddeisyfiad ef ei hun, rhwymwyd ef yn egwyddorwas yn y gelfyddyd y daeth wedi hyny o gymaint gwasanaeth ac addurn iddi. Ac wedi cwblhau ei brentisiaeth, a bod yn Llundain am ychydig flynyddau yn 'ymberffeithio,' fel y dywedid, efe a ymsefydlodd fel meistr argraffydd yn Llanymddyfri—yr hen dref lle bu y Ficer Pritchard yn goleuo Canwyll y Cymry, a cherllaw yr hon y mae Llanfair-ar-ybryn, lle y mae bedd yr Emynydd enwog o Bant y Celyn. Trwy fod Mr. Rees, fel yr awgrymwyd, yn wr o gyfoeth ac yn caru ei gelfyddyd, cystal ag yn anwylo llenyddiaeth ei wlad, prif bleser ei fywyd ydoedd cyfoethogi yr olaf hyd yn nod ar y draul o leihau y cyfoeth arall hwnw; a buasai golwg llawer tlotach ar Lenyddiaeth Cymru yn awr pe na buasai am ei ymdrechion ef o'i phlaid. Tra y treuliodd y nifer luosocaf o argraffwyr Cymreig eu hamser a'u llafur i gyhoeddi cyfieithiadau o'r Saesneg, adargraffiadau, a chynyrchion darfodedig y mynud awr, aeth Mr. Rees i drysorfeydd yr oesau gynt am ei ddefnyddiau, gan ddwyn oddiyno a'u dodi mewn dullwedd hardd gerbron y byd darllengar drysorau hanesyddol a llenyddol a roes arbenigrwydd a gwerth i Lenyddiaeth Gymreig yn mysg dysgedigion y byd. Tan enw a nawdd y gymdeithas a elwid yn Welsh MSS. Society, efe a gyhoeddodd yr Heraldic Visitations, o waith Lewis Dwnn—un o'r llyfrau harddaf a argraffwyd erioed mewn unrhyw iaith; Iolo MSS.; Welsh Saints; Liber Landavensis; Meddygon Myddvai; Y Mabinogion; a lluaws eraill ; ac y mae yn anhawdd penderfynu pa un i'w edmygu fwyaf yn mhob un o'r llyfrau hyn y wisg hardd a chelfydd y maent ynddi ynte eu teilyngdod llenyddol uchel. Mewn ystyr arianol, bu pob un ohonynt yn golled; ond mewn ystyr annhraethol uwch, buont yn llwyddiant dianmheuol. Y maent yn gofgolofn ardderchog i'w cyhoeddwr, ac yn engraifft o'r hyn a ddichon arian yn llaw y dyn sydd wedi ei fendithio â phen goleu a chalon ďda.

Cafodd Mr. Rees ei gefnogi yn ei ymdrechion llenyddol gan amryw awduron galluog; ac yn ffodus ymgymerodd y Bendefiges Charlotte Guest, gwraig ieuanc Syr John Guest, o Ddowlais, â golygu, a chyfieithu i'r Saesneg, y MABINOGION hyn. Yr oedd yn anturiaeth aruthrol i awdures ieuanc, yn enwedig pan gofier nad oedd yr awdures hono ychwaith yn Gymraes; ond hi a'i cyflawnodd yn y modd mwyaf celfydd a gorchestol. Ychydig o enwau sydd mor hysbys i edmygwyr llenyddiaeth Geltaidd; ac hyd y gwyddom, dyma yr unig orchestgamp lenyddol a gyflawnodd hi. Cyhoeddid y llyfr yn ddosranau, mabinogi neu ddwy yn mhob dosran. Daeth y gyntaf allan yn 1838, a'r olaf ddeng mlynedd ar ol hyny; ac y mae y gwaith yn gyflawn yn gwneud tair cyfrol. Gwerthid ef ar y cyntaf am £3/3s.; ond gan nad argraffwyd ond tua 500, buan yr aeth yn brin, ac er's blynyddau bellach nis gellir ei brynu o tan bump neu chwe' gini. Y mae