Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YSTORIAU CENHADOL




Y Pennaf Peth yn y Byd

EISTEDDAI tri brawd gyda'i gilydd gerllaw gwesty a safai ar fin coedwig yn yr India. Tri mab Brenin Benares oeddynt, a cheisient gynllunio pa fodd i gael yn ôl deyrnas eu tad, yr hon a draws-feddian- nwyd gan ormeswr pan fu farw'r brenin. Wrth geisio trefnu eu cynlluniau, gofynnodd yr hynaf, y Tywysog Deva, "Beth ydyw'r peth mwyaf yn y byd?"

Atebodd yr ail frawd, y Tywysog Sanka, "Y peth mwyaf yn y byd ydyw gallu; nid oes dim mwy nerthol na byddin gref."

"Na," atebodd y Tywysog Deva, "yr wyt. yn camgymryd. Y peth mwyaf yn y byd ydyw cyfoeth. Ti wyddost mai trwy roddi arian i'r milwyr y llwyddodd y gormeswr i draws-feddiannu teyrnas ein tad."

Daliasant ati i ddadlau eu dau, ond eis- teddai eu brawd ieuengaf, y Tywysog Aman- da, yn ddistaw, heb ddweud gair. Yn y man dywedodd y Tywysog Deva: "Af i China,