a chasglaf yno gyfoeth mwy nag a fedd undyn ar wyneb y ddaear."
"Af finnau tua'r gorllewin," ebe'r ail Dywysog, Sanka; "codaf fyddin fawr yng ngwlad Twrcistan. Caiff ein brawd ieueng- af, Amanda, fyned tua'r de i wlad Siam."
"Pa bryd y cawn gyfarfod eto?" gofynnodd Amanda.
"Gadewch inni," meddai Sanka, "gyfarfod yn y fan hon ar y dydd cyntaf o'r gwanwyn, ddeng mlynedd ymlaen. Cawn weled y pryd hwnnw pwy fydd wedi cael y peth mwyaf yn y byd, ac yna, fe ddichon, gallwn adfeddiannu teyrnas ein tad."
Ymwahanasant. Aeth y Tywysog Deva ar gefn march, ac ymunodd â charafan o farsiandwyr oedd yn cychwyn tua China. Trodd y Tywysog Sanka tua'r gorllewin, gan deithio llwybr unig drwy'r diffeithwch i gyfeiriad gwlad wyllt Twrcistan. Amharod iawn oedd y Tywysog Amanda i adael ei wlad; 'roedd ganddo gyfeillion lawer yno; ond o'r diwedd cychwynnodd i gyfeiriad y de, yn araf ac yn drist.
Aeth deng mlynedd heibio. Gwawriodd y bore cyntaf o'r gwanwyn. Edrychai'r